factograf
CY

hanesydd academaidd Prydeinig a hanesydd Marcsaidd (1917-2012)

Eric Hobsbawm

Eric Hobsbawm

Key facts

dyddiad geni9 Mehefin 1917
dyddiad marw1 Hydref 2012
''alma mater''Coleg y Brenin
galwedigaethllenor, hanesydd mewn economeg, hanesydd cymdeithasol
man geniAlecsandria
man marwLlundain
priodMuriel Seaman
cyflogwrBirkbeck, Prifysgol Llundain
aelod o'r blaid wleidyddolPlaid Gomiwnyddol Prydain Fawr
gwobrau a dderbyniwydGwobr Balza
All data from the card 13
Ganwyd
9 Mehefin 1917 Alexandria
Bu farw
1 Hydref 2012 o niwmonia Llundain
Man preswyl
Fienna, Villa Seutter, Berlin, Llundain
Dinasyddiaeth
y Deyrnas Unedig
Addysg
Doethur mewn Athroniaeth
Alma mater
Coleg y BreninSt Marylebone Grammar SchoolPrinz-Heinrichs-Gymnasium
Galwedigaeth
ysgrifennwr, hanesydd mewn economeg, hanesydd cymdeithasol, academydd, newyddiadurwr cerddoriaeth, gwyddonydd gwleidyddol, hanesydd
Cyflogwr
Birkbeck, Prifysgol Llundain
Plaid Wleidyddol
Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr
Tad
Leopold Percy Hobsbaum
Mam
Nelly Hobsbaum
Priod
Muriel Seaman, Marlene Hobsbawm
Plant
Julia Hobsbawm, Andy Hobsbawm, Joss Bennathan

Hanesydd ac awdur Marcsaidd o Loegr oedd Eric John Ernest Hobsbawm (9 Mehefin, 1917 – 1 Hydref 2012), a elwir gan amlaf yn "Eric Hobsbawm" neu'n "E. J. Hobsbawm". Ymhlith ei weithiau enwocaf yw ei driawd ar "y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir": The Age of Revolution: Europe 1789–1848, The Age of Capital: 1848–1875, ac The Age of Empire: 1875–1914; a'i lyfr ar "yr ugeinfed ganrif fer", The Age of Extremes: The Short Twentieth Century, 1914–1991.

Cafodd ei eni i deulu Iddewig yn Alecsandria, yr Aifft, ym 1917, a symudodd i Fienna pan oedd yn ddwyflwydd oed. Masnachwr Prydeinig oedd ei dad a llenores Awstriaidd oedd ei fam, a bu farw'r ddau yn ystod y Dirwasgiad Mawr. Ymunodd Eric Hobsbawn â'r Blaid Gomiwnyddol yn 14 oed tra'n byw ym Merlin â'i ewythr. Ymfudodd i Loegr ym 1933 ac aeth i Brifysgol Caergrawnt, lle bu'n gyfaill i Raymond Williams. Penodwyd ef yn ddarlithydd hanes yng Ngholeg Birkbeck ym 1947 a dyrchafwyd yn athro ym 1970. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Interesting Times: A Twentieth Century Life, yn 2002.

Bu farw ar 1 Hydref 2012 yn y Royal Free Hospital, Llundain, o niwmonia.

Read next

In 62 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article