factograf
CY
Sign in

dinas, Albania

Elbasan

Elbasan

Key facts

poblogaeth66,834
uchder uwch na lefel y môr140m
enghraifft o'r canlynoldinas, anheddiad dynol
gwladwriaethAlbania
All data from the card 8
Math
dinas, average city, anheddiad dynol
Poblogaeth
66,834
Gefeilldref/i
Novi Ligure, Turku, Treviso, Mitrovica, Dunaújváros, Liège
Gwlad
Albania
Uwch y môr
140 metr
Yn ffinio gyda
Tirana, Berat, Fier, Swydd Dibër, Korçë
Cyfesurynnau
41.113059°N 20.08178°E
Cod post
3001–3006
Muriau Castell Elbasan
Muriau Castell Elbasan

Dinas yng nghanolbarth Albania yw Elbasan (Albaneg: Elbasan neu Elbasani). Mae'n gorwedd ar lannau Afon Shkumbin yn Ardal Elbasan a Swydd Elbasan (41°06′Gog, 20°04′Dwy). Elbasan yw'r ddinas drydedd fwyaf yn Albania, gyda phoblogaeth o tua 100,000 (amcangyfrifiad 2003) ac arwynebedd o 1,290 km².

Roedd yn gorwedd ar y Via Egnatia yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.

Mae sawl enw ar ydref; Neokastron (Νεόκαστρον "Castell Newydd") yn Groeg, Novigrad ("Dinas Newydd") yn Slafeg a Terra Nuova ("Tir Newydd") yn Eidaleg. Daw'r enw cyfoes o'r Twrceg, il-basan ("y gaer").

Adeiladau a chofadeiladau

  • Castell Elbasan
  • Eglwys Mameli
  • Eglwys Santes Fair
  • Eglwys Sant Niclas (Shen Kolli)
  • Shkolla Normale e Elbasanit (ysgol)
  • Tŷ Kostandin Kristoforidhi (amgueddfa)

Economi

Dechreuodd datblygiad diwydiannol yn ystod y teyrnasiad y Brenin Zog gyda chynhyrchu tybaco a diodydd alcoholig, a daeth i ben yn ystod y gyfundrefn gomiwnyddol. Enillodd y ddinas amlygrwydd ar ôl adeiladu melin ddur yno yn 1974 yn ogystal â diwydiannau eraill.

Roedd y ddinas yn ganolbwynt ar gyfer diwydiant trwm yn ystod y gyfundrefn gomiwnyddol, gan ganolbwyntio ar ffatrïoedd prosesu metelegol a metel yn bennaf. Achosodd pob un o'r diwydiannau hyn lygredd mawr ac ystyrir mai Elbasan yw un o ddinasoedd mwyaf llygredig Albania heddiw.

Stadiwm Elbasan Arena

Yn dilyn yr angen i uwchraddio stadiwm yn y wlad ar gyfer safonau UEFA bu'n rhaid i Ffederasiwn Pêl-droed Albania gynnal gemau rhyngwladol mewn stadiymau eraill yn y wlad. Dewisiwyd adnewyddu Stadiwm Ruzhdi Bizhuta yn Elbasan. Dyma stadiwm y tîm cartref KF Elbasani. Yn 2014 agorwyd stadiwn newydd yr Elbasan Arena ar gyfer gemau rhyngwladol.

Gefeilldrefi

Enwogion

  • Sedefkar Mehmed Agha (c.1540-1617), pensaer
  • Dhimitër Shuteriqi (1915-2003), awdur

Dolen allanol

  • (Albaneg) Gwefan swyddogol



Eginyn erthygl sydd uchod am Albania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 116 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article