factograf
CY
Sign in

Edith New

Edith New

Key facts

dyddiad geni17 Mawrth 1877
dyddiad marw2 Ionawr 1951
galwedigaethswffragét, athro
man geniSwindon
man marwLyskerrys
gwobrau a dderbyniwydMedal y Swffragét
All data from the card 5
Ganwyd
17 Mawrth 1877 Swindon
Bu farw
2 Ionawr 1951 Liskeard
Dinasyddiaeth
Lloegr
Galwedigaeth
swffragét, athro
Gwobr/au
Medal y Swffragét

Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Edith New (17 Mawrth 1877 - 2 Ionawr 1951) - un o'r ddwy swffragét cyntaf i ddefnyddio fandaliaeth fel tacteg o fewn eu harfogaeth.

Fe'i ganed yn Swindon ar 17 Mawrth 1877; bu farw yn Liskeard.

Synwyd Edith new a Mary Leigh pan ddathlwyd y fandaliaeth hwn gan fenywod ledled gwleydd Prydain, yn enwedig pan ddaethant allan o'r carchar yn 1908, a'u trin fel arwyr gan y dorf.

Bywyd cynnar

Ganed Edith Bessie New yn 24 North Street, Swindon, yn un o bump o blant Isabella (g. Frampton 1850–1922), athrawes cerddoriaeth, a Frederick James New, clerc rheilffordd, a fu farw pan oedd Edith yn llai na blwydd oed pan gafodd ei daro a'i ladd gan drên. Erbyn iddi fod yn 14 oed, gweithiai fel athrawes, gan symud i Ddwyrain Llundain yn 1901.

Yr ymgyrchydd

Edith New yn annerch y dorf yn Hawick, yn 1909.
Edith New yn annerch y dorf yn Hawick, yn 1909.
Edith New a Mary Leigh mewn cerbyd yn cael ei dynnu o Holloway i Queen's Hall yn 1908.
Edith New a Mary Leigh mewn cerbyd yn cael ei dynnu o Holloway i Queen's Hall yn 1908.
2 images

Yn y 1900au cynnar gadawodd New ei gyrfa dysgu a dechreuodd weithio fel trefnydd ac ymgyrchydd Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU). Teithiodd o gwmpas Lloegr yn siarad â grwpiau o fudiadau merched. Yn Ionawr 1908, cadwynodd Edith New ac Olivia Smith eu hunain i farrau haearn ffens 10 Stryd Downing, gan weiddi "Pleidleisiau i Fenywod!"; ymgais oedd hyn i greu gwyriad ar gyfer eu cyd-swffragetiaid Flora Drummond a Mary Macarthur, fel y gallent sleifio i mewn i 10 Stryd Downing, a chael eu harestio.

Yn ddiweddarach ym Mehefin 1908 yn ystod protest, torrodd New a Mary Leigh ddwy ffenestr yn 10 Downing Street. Cawsant eu harestio a'u dedfrydu i ddau fis yn y carchar yn Holloway.

Hwn oedd y tro cyntaf i fudiad etholfraint a hawliau merched i weithredu drwy ddefnyddi fandaliaeth, ac ofnai'r ddwy fenyw na fyddai swffragetiaid eraill yn cymeradwyo eu gweithred treisgar, ond ymwelodd Emmeline Pankhurst, arweinydd y mudiad â'r merched yn y carchar a chymeradwyodd y defnydd o fandaliaeth fel tacteg er mwyn cael sylw'r wasg. Wedi hynny, cynlluniwyd rhagor o fandaliaeth a llosgi bwriadol gan y merched.

Tra oedd yn y carchar, aeth ar ympryd (streic newyn) mewn protest.

Anrhydeddau

Cyflwynodd y WSPU fedal i Edith New i gydnabod ei chyfraniadau i'r mudiad dros y bleidlais. Ymddeolodd i Polperro yng Nghernyw a bu farw yn gynnar yn 1951, yn 73 oed. Yn 2011, cafodd stryd yn Swindon ei hailenwi er anrhydedd iddi a cheir plac glas yn Stryd y Gogledd, Swindon, yn nodi ei man geni.

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét.


Read next

In 10 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article