factograf
CY

Digartrefedd

Digartrefedd

Digartrefedd yw sefyllfa pan nad oes gan berson gartref oherwydd nad oes digon o gartrefi ar gael, neu ni allant fforddio prynu neu rentu cysgodfan rheolaidd, diogel ac addas.

Rhesymau dros ddigartrefedd

Yn ôl astudiaethau diweddar, dyma rai o brif achosion digartrefedd:

  • Diffyg stoc o dai fforddiadwy.
  • Tlodi oherwydd diwethdra.
  • Camdrin sylweddau.
  • Problemau iechyd meddwl
  • Trais yn y cartref
  • Cyn garcharorion heb gartref i ddychweld iddynt wedi iddynt gael eu rhyddhau
  • Trychinebau naturiol
  • Dadfeddiant gorfodol - mewn rhai gwledydd, mae pobl yn colli eu cartrefi oherwydd gorchmynion gan y llywodraeth er mwyn datblygiadau cyhoeddus neu breifat. Yn aml mae'r iawndal yn annigonol er mwyn dod o hyd i gartref newydd.
  • Gorfod ad-dalu morgais, a'r unig ddewis yw gwerthu'r tŷ.

Read next

In 58 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article