factograf
CY
Sign in

gweinidog Methodistaidd

Daniel Rowland

Daniel Rowland
All data from the card 5
Ganwyd
1713 Cymru, Nancwnlle
Bu farw
16 Hydref 1790
Dinasyddiaeth
Cymru
Galwedigaeth
gweinidog yr Efengyl
Plant
John Rowland, Nathaniel Rowland
Llun o ddelw Daniel Rowlands, Llangeitho (4671151)
Llun o ddelw Daniel Rowlands, Llangeitho (4671151)
Daniel Rowlands, gan Robert Bowyer
Daniel Rowlands, gan Robert Bowyer
2 images

Roedd Daniel Rowland, Llangeitho (1713 – 16 Hydref 1790) yn un o arweinwyr y diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif, ynghyd â William Williams a Howel Harris. Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Griffith Jones tua 1735.

Hanes

Treuliodd y rhan fwya o'i fywyd yn giwrad ym mhlwyfi Nantcwnlle a Llangeitho, Ceredigion. Cydnabyddwyd ef fel pregethwr ac fe drodd e Langeitho yn ganolfan i Fethodistiaeth Galfinaidd yng Nghymru.

Cafodd ei luchio o'r Eglwys Anglicanaidd am i'w bregethu achosi'r fath ferw - y diwygiad Methodistaidd yn arbennig. Wedi hynny, sefydlodd achos Methodistaidd yn Llangeitho.

Roedd ei bregethau cynnar yn adnabyddus fel rhai dychrynllyd, am eu bod yn sôn cymaint am Farn Duw ynddynt. Ond wrth aeddfedu, rhoddai fwy o bwyslais ar y waredigaeth ar y Groes. Ystyrid ei ddiwinyddiaeth a'i gymeriad yn fwy cyson a sefydlog na'i gyfaill Howel Harris yn ystod y diwygiad.

"Dros y Mynydd Bach" y byddai pererinion Anghydffurfiol o mor bell i'r gogledd ag Arfon a Llŷn yn dod i wrando ar bregethu Daniel Rowland yn Llangeitho. Roedd ffynnon ar lethrau'r Mynydd tua dwy filltir o Langeitho lle byddent yn ymgynnull i gael lluniaeth, diod a gorffwys ar ôl teithio trwy'r nos dros y Mynydd. Byddent yn dod o Sir Gaernarfon bob ail fis gan hurio cychod pysgota o Aberdaron, Abersoch, Pwllheli neu Borthmadog, i Aberystwyth, gan gychwyn eu taith ddydd Gwener. Ar y Sadwrn cerddent o Aber i Langeitho dros y Mynydd Bach a dychwelyd yr un ffordd nos Sul.

Llyfryddiaeth ddethol

  • D. J. Odwyn Jones, Cofiant Daniel Rowland (1938)

Read next

In 6 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article