
Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Dale. Saif ar arfordir i'r gogledd-orllewin o Aberdaugleddau. Saif yn y rhan Saesneg o Sir Benfro, ac nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Daw'r enw "Dale" o'r Hen Norseg Dalr ("dyffryn"). Gerllaw mae Llwybr Arfordir Sir Benfro.
Ceir caer o'r cyfnod Fictoraidd yn y pentref, sy'n awr yn ganolfan astudiaethau maes bioleg y môr, daeareg a phynciau tebyg. Effeithiwyd ar yr ardal pan gollwyd 72,000 tunnell o olew i'r môr wedi i'r llong Sea Empress fynd ar y creigiau gerllaw ar 15 Chwefror 1996.
Gerllaw Dale, ym Mae Pont y Pistyll, y glaniodd Harri Tudur yn 1485 i ddechrau'r ymgyrch a arweiniodd at fuddugoliaeth Brwydr Maes Bosworth a'i goroni fel Harri VII.
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
| Cyfrifiad 2011 | ||||
|---|---|---|---|---|
| Poblogaeth cymuned Dale (pob oed) (225) | 100% | |||
| Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dale) (13) | 5.9% | |||
| :Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
| Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dale) (139) | 61.8% | |||
| :Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
| Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Dale) (44) | 42.3% | |||
| :Y ganran drwy Gymru | 67.1% | |||
Cyfeiriadau
Dinas
Tyddewi
Trefi
Aberdaugleddau · Arberth · Abergwaun · Cilgerran · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · Hwlffordd · Neyland · Penfro · Wdig
Pentrefi
Aber-bach · Abercastell · Abercuch · Abereiddi · Aberllydan · Amroth · Angle · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd-bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm-yr-Eglwys · Dale · Dinas · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Jeffreyston · Johnston · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maiden Wells · Manorowen · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Pentre Galar · Pontfadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Fflwrens · Sain Ffrêd · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Trefwrdan · Treglarbes · Tre-groes · Treletert · Tremarchog · Uzmaston · Waterston · Yerbeston
