factograf
CY

Cro-Magnon

Cro-Magnon
Offer llaw Cro-Magnon – Casgliad Louis Lartet
Offer llaw Cro-Magnon – Casgliad Louis Lartet

Hen enw cyffredin (nid enw gwyddonol) yw Cro-Magnon a ddefnyddir i ddisgrifio bodau dynol cynnar a oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig Uchaf o Ewrop. Y term cyfoes yw ‘bodau dynol modern cynnar yr Ewrop’ (European early modern humans (EEMH). Gan mai enw cyffredin ydyw Cro-Magnon nid oes iddo statws tacsonomegol ffurfiol.

Canfuwyd gweddillion pobl Cro-Magnon yn yr Eidal ac yng ngwledydd Prydain, ac fe'i dyddiwyd gan ddyddio radiocarbon i rhwng 43,000 a 45,000 cyn y presennol (CP). Cafwyd hyd i weddillion Pro-Magnon hefyd yn Yr Arctig Rwsiaidd a ddyddiwyd i 40,000 CP.

O ddadansoddi'r esgyrn a ganfuwyd, gwyddwn fod Cro-Magnon yn gryf, trwm gyda thalcen syth ac wyneb llydan a byr. Roedd ei ên yn amlwg iawn a'i ymennydd oddeutu 1,600 cc - mwy na bodau dynol modern.

Etymoleg

Canfuwyd gweddillion cyntaf Cro-Magnon yma yn Abri de Cro-Magnon, yn 1868.
Canfuwyd gweddillion cyntaf Cro-Magnon yma yn Abri de Cro-Magnon, yn 1868.

Daw'r enw o le o'r enw Abri de Cro-Magnon ("abri" yw'r gair Ffrangeg am "gysgod craig", "cro" yw'r Ocsitaneg am "dwll" neu "wagle" a "Magnon" oedd enw perchennog y tir ar y pryd. Saif ym mhentref bychan Les Eyzies yng nghymuned Les Eyzies-de-Tayac-Sireuil yn ne-orllewin Ffrainc, ble y canfuwyd y gweddillion cyntaf. Oherwydd y cysylltiad agos gyda dyn modern (Homo sapiens sapiens), cysylltir paentiadau Ogof Lascaux.

Read next

In 71 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article