Actor o Gymru yw Craig Roberts (ganed 25 Ionawr 1991). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan 'Oliver Tate' yn y ddrama gomedi Submarine, a 'Rio' yng nghyfres deledu plant The Story of Tracy Beaker.
Ganed Roberts yn Maesycwmer, Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Ymddangosodd fel y ffanatic sugnwyr gwaed, Robin Branagh, yn nwy dymor o'r gyfres Young Dracula. Gweithiodd gyda'r Touring Theatre Company yn 2008, gan chwarae rhan 'Ryan' mewn taith ledled Prydain Fawr o 'Full Time'. Mae hefyd wedi ymddangos yn Care, a Casualty. Chwaraeodd ran 'Drax', ym mhantomeim 'Snow White' yn Worthing ym mis Ionawr 2009. Chwaraeodd ran 'Adam' yng nghyfres deledu BBC Three Being Human, a'r gyfres gysylltiedig Becoming Human.
Serenodd Roberts yn ffilm 2010 Submarine sydd hefyd yn serennu Paddy Considine a Yasmin Paige. Cafodd Roberts ei enwi'n Berfformiwr Prydeinig y Flwyddyn yng Ngwobrau London Film Critics’ Circle ym mis Ionawr 2012. Ef hefyd oedd y llais ar hysbyseb ffôn symudol HTC One yn 2012, ble mae ffotograffydd yn neidio allan o awyren ar gyfer saethiad ffasiwn.
Ffilmograffi
| Blwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau |
|---|---|---|---|
| 2000 | Care | Craig, Pauline's Child | Ffilm deledu |
| 2003 | Little Pudding | Ffilm deledu | |
| 2004 | The Story of Tracy Beaker | Rio | Cyfres deledu (2 gyfres 2004-2006) |
| 2005 | Kiddo | Jay | Ffilm deledu |
| Casualty | Darren Smith/Jordan Philpot | Cyfres deledu (2 bennod: 2005-2008) | |
| 2006 | Scratching | Mike | Ffilm fer |
| Young Dracula | Robin Branagh | Cyfres deledu, tymor 1 a 2 (27 pennod: 2006-2008) | |
| 2010 | Submarine | Oliver Tate | |
| 2011 | Being Human | Adam | Cyfres deledu (2 bennod: "Adam's Family", "Hold the Front Page") |
| Becoming Human | Adam | Cyfres deledu | |
| Jane Eyre | John Reed | ||
| 2012 | Red Lights | Ben | |
| The First Time | Simon Daldry | ||
| Comes a Bright Day | Sam Smith | ôl-gynhyrchu |
Dolenni allanol
- Craig Roberts ar wefan Internet Movie Database
