factograf
CY

ymerawdwr Rhufeinig (317-361)

Constantius II

Constantius II

Key facts

dyddiad geni7 Awst 317
dyddiad marw3 Tachwedd 361
galwedigaethgwleidydd
man geniSirmium
man marwCilicia
swyddymerawdwr Rhufain
All data from the card 10
Ganwyd
7 Awst 317, 13 Awst 317 Sirmium
Bu farw
3 Tachwedd 361 Cilicia
Dinasyddiaeth
Rhufain hynafol, yr Ymerodraeth Fysantaidd
Galwedigaeth
gwleidydd
Swydd
ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd
Tad
Cystennin I
Mam
Fausta
Priod
daughter of Julius Constantius, Eusebia, Faustina
Plant
Constantia
Llinach
llinach Cystennin

Flavius Julius Constantius, mwy adnabyddus fel Constantius II (7 Awst 317 – 3 Tachwedd 361), oedd ymerawdwr Rhufain o 337 hyd ei farwolaeth.

Roedd Constantius yn drydydd mab Cystennin I a’i wraig Fausta. Ganed ef yn Illyricum (Hwngari heddiw) a cyhoeddwyd ef yn “Gesar” (is-ymerawdwr). Pan fu farw ei dad yn 337, llwyddodd i gael gwared o holl ddisgynyddion Constantius Chlorus o’i ail wraig Theodora, gan ei adael ef ei hun a’i frodyr Cystennin II a Constans, disgynyddion.gwraig gyntaf Constantius Chlorus, Helena. Rhannwyd yr ymerodraeth rhyngddynt, gyda Constantius yn cael Caergystennin a dwyrain yr ymerodraeth. Cymerodd Constantius ran yn nadleuon diwinyddol y cyfnod, gan gefnogi Ariaeth.

Yn 340 lladdwyd Cystennin II wrth ymosod ar Constans yn yr Eidal, gan adael Constans yn feistr rhan orllewinol yr ymerodraeth. Yn 350 lladdwyd Constans mewn brwydr yn erbyn Magnentius oedd yn ceisio hawlio’r ymerodraeth. Enwodd Constantius ei gefnder Gallus fel “Cesar”, ac yn 351 llwyddasant i orchfygu Magnentius ym mrwydr Mursa Major, un o frwydrau mwyaf gwaedlyd Rhufain. Lladdodd Magnentius ei hun yn 353, a chan nad oedd angen Gallus bellach, trefnodd Constantius i’w ladd yn fuan wedyn.

Penododd Constantius yn unig aelod gwrywaidd o’r teulu oedd yn dal yn fyw, Julian, fel Cesar, a rhoddodd ei chwaer Helena yn wraig iddo. Fodd bynnag, gwrthryfelodd Julian a chyhoeddwyd ef yn Augustus gan ei filwyr. Roedd byddinoedd y ddau yn bur gyfartal, ond ar 3 Tachwedd 361 bu Constantius farw o dwymyn gerllaw Tarsus, gan adael Julian yn ymerawdwr.

Rhagflaenydd:
Cystennin IYmerawdwr Rhufain
337 – 361
gyda Cystennin II a ConstansOlynydd:
Julian

Read next

In 71 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article