Roedd Ferren "Coco" Lee (17 Ionawr 1975 – 5 Gorffennaf 2023) yn gerddor, actores, dawnsiwr, a chantores o Hong Cong. Dechreuodd ei gyrfa yn Hong Cong ac yn ddiweddarach ehangodd i Taiwan ac yn rhyngwladol. Roedd Lee wedi rhyddhau 18 albwm stiwdio, dau albwm byw, a phum albwm crynhoi, gan gynnwys ei halbwm Saesneg cyntaf, Just No Other Way.
Cafodd Lee ei geni yn Hong Cong, yn ferch i fam o Hong Cong a thad Tsieineaidd o Malaysia.
Ar 2 Gorffennaf 2023 ceisiodd Lee hunanladdiad. Cafodd ei dderbyn i Ysbyty'r Frenhines Mary, ac yno y bu farw dridiau yn ddiweddarach, ar 5 Gorffennaf 2023, yn 48 oed.
