Clefyd heintus yw clefyd Lyme, a enwir hefyd yn Lyme borreliosis, a gaiff ei achosi gan facteria o'r genws Borrelia a giff ei ledaenu gan drogod. Yr arwydd mwyaf cyffredin o'r haint yw ardal goch ar y croen yn ehangu, a enwir yn erythema migrans, sy'n dechrau ar leoliad cnoiad gan drogen oddeutu wythnos ar ôl iddo ddigwydd. Fel arfer, nid yw'r rash yn cosi nac yn boenus. Nid yw oddeutu 25-50% o bobl sydd wedi'u heintio yn datblygu rash. Gall symptomau cynnar eraill gynnwys y dwymyn, cur pen a theimlo wedi blino. Os na chânt eu trin, gall symptomau gynnwys colli'r gallu i symud un neu ddwy ochr o'r wyneb, poen yn y cymalau, cur pen difrifol a gwddf stiff, neu'r galon yn gorguro, ymhlith eraill. Misoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach, gall episodau o boen yn y cymalau a chwyddo ddigwydd o dro i dro. Ar adegau, mae pobl yn datblygu poenau sydyn neu gosi yn eu coesau a'u breichiau. Er iddynt dderbyn triniaeth briodol, mae oddeutu 10 i 20% i bobl yn datblygu ponau yn y cymalau, problemau â'r cof, ac yn teimlo'n flinedig am o leiaf chwe mis.
Caiff y clefyd Lyme ei drosglwyddo i bobl drwy frathiad gan drogen wedi'i heintio o'r genws Ixodes. Fel arfer, rhaid i'r ddrogen fod wedi'i gysylltu am 36 o 48 awr cyn y gall y bacteria ledaenu. Yng Ngogledd America, Borrelia burgdorferi a Borrelia mayonii yw'r achos. Yn Ewrop ac Asia, mae'r bacteria Borrelia afzelii a Borrelia garinii hefyd yn achosion o'r clefyd. Ymddengys nad yw'r clefyd yn gallu trosglwyddo rhwng pobl, gan anifeiliaid eraill, neu drwy fwyd. Caiff diagnosis ei seilio ar gyfuniad o symptomau, hanes o gysylltiad â drogod, a phrofion o bosib am wrthgyrff yn y gwaed. Mae profion gwaed yn negyddol yn am yng nghamau cyntaf y clefyd. Nid yw profion am drogod unigol yn ddefnyddiol fel arfer.
Er mwyn atal y clefyd, gellir ceisio osgoi brathiadau gan drogod, drwy wisgo trwosus hir a defnyddio DEET i atal pryfaid. Gall defnyddio plaleiddiaid i leihau niferoedd trogod hefyd fod yn effeithiol. Gellir tynnu trogod oddi ar y croen hefyd. Os yw'r drogen a dynnwyd yn llawn gwaed, gellir defnyddio un dos o doxycycline i atal haint rhag datblygu, ond ni chaiff hyn ei argymell yn gyffredinol gan fod datblygu haint yn beth prin. Os yw haint yn datblygu, mae nifer o wrthfiotigau'n effeithiol, gan gynnwys docsycycylin, amoxicillin, a ceffwrocsim. Mae triniaeth arferol yn para dwy i dair wythnos. Mae rhai pobl yn datblygu haint wresog a phoenau yn eu cyhyrau a'u cymalau a all bara am un neu ddau ddiwrnod. Yn y rheiny sy'n datblygu symptomau, nid yw triniaeth gwrthfiotig hirdymor wedi bod yn ddefnyddiol.
