factograf
CY
Sign in

ymerawdwr Rhufeinig (10 CC – OC 54)

Claudius

Claudius

Key facts

dyddiad geni1 Awst 11
dyddiad marw13 Hydref 54
galwedigaethgwleidydd, hanesydd, llenor
man marwRhufain
swyddymerawdwr Rhufain
disgrifiwyd gan y ffynhonnellGwyddoniadur Iddewig Brockhaus and Efron (yn Rwsieg)
All data from the card 13
Ganwyd
Tiberius Claudius Drusus 1 Awst 10 CC Lugdunum
Bu farw
13 Hydref 0054 o gwenwyniad Rhufain
Dinasyddiaeth
Rhufain hynafol
Galwedigaeth
gwleidydd, hanesydd, ysgrifennwr
Swydd
ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Censor, Conswl Rhufeinig, Augur
Adnabyddus am
De vita sua
Tad
Nero Claudius Drusus
Mam
Antonia Minor
Priod
Plautia Urgulanilla, Aelia Paetina, Messalina, Agrippina Yr Ieuengaf
Partner
Calpurnia, Cleopatra, Livia Medullina, Aemilia Lepida
Plant
Tiberius Claudius Drusus, Claudia Julia, Claudia Antonia, Claudia Octavia, Britannicus, Nero
Perthnasau
Nero
Llinach
llinach Iŵl a Claudius, Claudii Nerones

Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus neu Claudius (1 Awst 10 CC – 13 Hydref 54) oedd pedwerydd Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus. Bu'n ymeradwr o 24 Ionawr 41 hyd ei farwolaeth.

Ganed ef yn Lugdunum (dinas Lyon yn Ffrainc heddiw), yn fab i Drusus ac Antonia Minor. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r Eidal.

Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw Augustus yn 14 gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, Tiberius am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth Caligula yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar 24 Ionawr 41, llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.

Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu Thrace, Mauretania, Noricum, Pamphylia, Lycia a and Iudaea yn ogystal â choncro Prydain. Yn 43, gyrrodd Claudius Aulus Plautius gyda pedair lleng i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth.

Bu farw Claudius ar 13 Hydref 54. Credir iddo gael ei wenwyno, a bod gan ei wraig Agrippina ran yn y cynllwyn. Dilynwyd ef gan Nero, mab Agrippina o briodas flaenorol.

Rhagflaenydd:
CaligulaYmerawdwr Rhufain
25/26 Ionawr 41 OC – 13 Hydref 54 OCOlynydd:
Nero

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Rufain hynafol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Read next

In 96 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article