factograf
CY
Sign in

Clan

Clan
All data from the card 3
Math
teulu
Freebase
/M/01kk40
Thesawrws y BNCF
14898

Grŵp ceraint o deuluoedd estynedig sy'n olrhain eu llinach yn ôl i gydhynafiad unigol yw clan. Mae'r dras a rennir yn rhoi i'r teuluoedd gwahanol syniad o hanes cyffredin rhyngddynt. Fel arfer mae'r dras yn unllinellog neu o linach y tadau neu'r mamau'n unig. Gan amlaf, ond nid pob amser, mae claniau yn allbriodasol, a chaiff priodas o fewn y clan ei gweld yn llosgach.

Yn hanesyddol cysylltir y term â chlaniau'r Alban ac Iwerddon, ond defnyddir yn fwyfwy heddiw i ddisgrifio grwpiau ar draws y byd. O ran maint, mae clan yn tueddu i fod yn fwy na band ond yn llai na llwyth. Mewn rhai cymdeithasau mae nifer o glaniau yn ffurfio llwyth.

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am anthropoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 78 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article