factograf
CY
Sign in

Chalcolithig

Chalcolithig
All data from the card 10
Enghraifft o:
cyfnod archaeolegol
Math
cynhanes
Rhan o
Oes yr Efydd
Dechreuwyd
75 g CC
Daeth i ben
55 g CC, 2500 (yn y Calendr Iwliaidd) CC
Rhagflaenwyd gan
Oes Newydd y Cerrig
Olynwyd gan
Oes yr Efydd
Lleoliad
Y Dwyrain Canol
Yn cynnwys
Early Chalcolithic, Middle Chalcolithic, Late Chalcolithic, Late Chalcolithic in Greater Mesopotamia, Levantine Chalcolithic, Chalcolithic Europe
Freebase
/M/0236w

Mae cyfnod y Chalcolithig (Groeg: khalkos + lithos 'carreg gopr') neu Oes y Copr (a elwir hefyd yn Eneolithig (Aeneolithig)), yn gam yn natblygiad diwylliant y ddynolryw a welodd ymddangosiad graddol yr offer metel cyntaf a ddefnyddid ochr yn ochr ag offer carreg. Mae'r term(au) a'i ddefnydd gan archaeolegwyr yn amrywio'n fawr.

Yn draddodiadol mae llenyddiaeth archaeoleg Ewropeaidd yn osgoi defnyddio'r term 'chalcolithig' (gan ddefnyddio'r term 'Oes y Copr' yn ei le), tra bod archaeolegwyr yn y Dwyrain Canol ar y llaw arall yn ei ddefnyddio'n rheolaidd. Y rheswm am hynny yw bod y chalcolithig wedi dechrau'n gynharach o lawer yn yr ardal honno, tra bod y newid o'r cyfnod chalcolithig byr a gafwyd yn Ewrop i Oes yr Efydd yn llawer mwy sydyn (am fod y dechnoleg newydd wedi dod i Ewrop o'r Dwyrain Canol).

Mae'r cyfnod yn un o drawsnewid rhwng y Neolithig (Oes y Cerrig) ac Oes yr Efydd, sy'n gorwedd y tu allan i'r hen system tair oes ar gyfer Cynhanes. Ymddengys fod pobl yn araf i ddefnyddio copr, efallai'n bennaf am ei bod yn fetel gymharol brin a meddal, a'i bod wedi cael ei chymysgu gyda thun a metelau eraill yn gynnar iawn; ffaith sy'n ei gwneud hi'n anodd i wahaniaethu rhwng y gwahanol diwylliannau Chalcolithig a'u dosbarthu'n drefnus.

Y canlyniad yw bod y term yn tueddu i gael ei ddefnyddio mewn rhai lleoedd yn unig, yn bennaf yn ne-ddwyrain Ewrop a gorllewin a chanolbarth Asia (o tua'r 4ydd milenniwm CC ymlaen). Fe'i defnyddir weithiau i ddisgrifio rhai o wareiddiaid yr Amerig yn y cyfnod yn union cyn dyfodiad yr Ewropeiaid yn ogystal.

O 4300 i 3200 CC yn y cyfnod Chalcolithig, mae Gwareiddiad Dyffryn Indus yn dangos cyfatebiaethau ceramig gyda diwylliannau cynnar de Tyrcmenistan a gogledd Iran, sy'n awgrymu teithio a masnachu ar raddfa sylweddol.

Read next

In 92 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article