factograf
CY
Sign in

Chalcogen

Chalcogen
All data from the card 7
Enghraifft o:
grŵp yn y tabl cyfnodol, main group
Math
elfen gemegol
Rhan o
tabl cyfnodol, p-block
Rhagflaenwyd gan
Elfen Grŵp 15
Olynwyd gan
Halogen
Yn cynnwys
elfen gemegol, ocsigen, sylffwr, seleniwm, telwriwm, poloniwm, Lifermoriwm
Freebase
/M/01s71
Grŵp → 16
↓ Cyfnod
2 8
O
3 16
S
4 34
Se
5 52
Te
6 84
Po
7 116
Uuh

Grŵp o un-ar-bymtheg elfen yn y tabl cyfnodol ydy Grŵp 16, neu'r grŵp calcogen ac weithiau fe'i gelwir "y grŵp ocsigen". Yr hen enw arnynt oedd grŵp VIB neu VIA. Yn nhrefn safonnol IUPAC mae grŵp 16 yn cynnwys: ocsigen (O), swlffwr (S), seleniwm (Se), telwriwm (Te), yr elfen ymbelydrol poloniwm (Po), a'r elfen synthetig ununhecsiwm (Uuh).

Mae ocsigen, swlffwr a soleniwm yn anfetelau a telwriwm a pholoniwm yn feteloid ac ununhecsiwm yn fetel tlawd.

Anaml iawn, fodd bynnag, y disgrifir ocsigen fel aelod o'r teulu hwn.

Nodweddion

Mae patrwm yr electronnau rhwng aelodau unigol y teulu yn debyg iawn i'w gilydd, yn enwedig ar du allan y gragen, ac oherwydd hyn mae eu hymddygiad cemegol yn debyg i'w gilydd:

Z Elfen Nifer yr electronnau
8 ocsigen 2, 6
16 swlffwr 2, 8, 6
34 seleniwm 2, 8, 18, 6
52 telwriwm 2, 8, 18, 18, 6
84 poloniwm 2, 8, 18, 32, 18, 6
116 ununhecsiwm 2, 8, 18, 32, 32, 18, 6

Anfetelau ydy ocsigen a swlffwr. Metaloid ydy seleniwm, telwriwm a poloniwm; fodd bynnag, yn eu ffurfiau elfennol, gelwir telwriwm a seleniwm yn fetel.

Mae'r calcogennau metalig i'w cael yn naturiol drwy'r byd e.e. mwyn haearn ydy pyreit (FeS2)

Mae'r rhif atomig mewn coch yn nwyonMae'r rhif atomig mewn du yn solidauMae blwch gydag ymyl trwchus yn cynnwys elfennau primordaidd sy'n hŷn na'r DdaearMae blychau gydag ymyl toredig yn cynnwys elfennau ymbelydrol sy'n dadfeilioMae blychau gydag ymyl o ddotiau yn cynnwys elfennau synthetig ymbelydrol.

Yr enw

Daw'r enw o ddau air Groegaidd: χαλκος (chalkos) sy'n golygu "copr" a γενεσ (genes) sy'n golygu geni neu "creu". Fe'i defnyddiwyd am y tro cyntaf yn 1930 gan Wilhelm Biltz o Brifysgol Hanover wedi i Werner Fischer fathu'r gair. Yn anffodus dydy aelodau'r grŵp yma ddim yn creu copr; ond maen nhw'n creu mwynau (Saesneg: ore forming). Cysylltwyd y gair Groeg "chalkos" efo unrhyw gerrig a oedd yn cynnwys metel.

Read next

In 76 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article