factograf
CY
Sign in

Cetamin

Cetamin
All data from the card 28
Enghraifft o:
par o enantiomerau
Math
monochlorobenzene, cyclohexanones, secondary amine
Màs
237.092042 uned Dalton
Fformiwla gemegol
C₁₃h₁₆clno
Enw WHO
Ketamine
Clefydau i'w trin
Poen, camddefnyddio sylweddau
Beichiogrwydd
Categori beichiogrwydd awstralia b3, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c
Rhan o
response to ketamine
Freebase
/M/04b5r
Thesawrws y BNCF
54495
CAS
6740-88-1
PubChem CID
3821
ChEBI
6121
ChEMBL
Chembl742
ChemSpider
3689
UNII
690g0d6v8h
ATC
N01ax03
KEGG
C07525, d08098
Llawlyfr Ligand
4233
Rhif EC
229-804-1
Cofrestr Beilstein
2216965
Drugbank
Db01221
ECHA
100.027.095
HMDB
Hmdb0015352
RxNorm CUI
6130
UMLS CUI
C0022614
NDF-RT
N0000147885
Quora
Ketamine

Mae cetamin, sy’n cael ei werthu dan yr enw brand Ketalar ymysg eraill, yn feddyginiaeth a ddefnyddir yn bennaf i ddechrau a chynnal anesthesia. Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₃H₁₆ClNO. Mae cetamin yn gynhwysyn actif yn Zetamine, Ketaved, Vetaket, Ketaject, Ketaset a Ketathesia.

Defnydd meddygol

Mae cetamin fel rhan o ddarpariaeth anesthetig yn ysgogi cyflwr tebyg i lesmair wrth ddarparu rhyddhad rhag poen, tawelyddiad, a cholli cof. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin poen cronig ac ar gyfer tawelyddiad mewn gofal dwys. Yn gyffredinol, mae swyddogaethau'r galon, y system anadlu ac adweithiau'r llwybr awyr yn parhau i fod yn weithredol yn ystod ei effeithiau. Fel rheol, bydd yr effeithiau'n dechrau o fewn pum munud pan weinir trwy bigiad gyda'r prif effeithiau yn para hyd at 25 munud.

Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:

  • poen
  • cam-drin sylweddau
  • Enwau

    Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Cetamin, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;


    Sgil effeithiau

    Mae sgil effeithiau cyffredin yn cynnwys adweithiau seicolegol wrth i'r prif effeithiau gwanhau. Gallai'r adweithiau hyn gynnwys cynnwrf, dryswch a rhithweledigaethau. Mae pwysedd gwaed uchel a chryndod y cyhyrau yn gymharol gyffredin, tra bod pwysedd gwaed isel a gostyngiad yn y gallu i anadlu yn llai cyffredin. Yn achlysurol iawn  gall gwaew'r laryncs yn digwydd.

    Hanes

    Darganfuwyd cetamin ym 1962, a brofwyd gyntaf ymhlith pobl ym 1964. Cafodd ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yn yr Unol Daleithiau ym 1970. Yn fuan wedi ei gymeradwyo gan yr Unol Daleithiau, fe'i defnyddiwyd yn helaeth ar gyfer anesthesia llawfeddygol yn Rhyfel Fietnam. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.

    Defnydd milfeddygol

    Caiff cetamin ei ddefnyddio'n aml fel anaesthetig a phoenliniarydd ar gathod, cŵn, cwningod, llygod mawr, ac anifeiliaid bach eraill. Fe'i defnyddir yn helaeth mewn cynefino a chynhaliaeth anesthetig mewn ceffylau.

    Defnydd hamddenol

    Mae cetamin hefyd yn cael ei ddefnyddio fel cyffur hamdden anghyfreithiol. Yn y Deyrnas Unedig, fe'i labelwyd yn gyffur Dosbarth C ar 1 Ionawr 2006. Ar 10 Rhagfyr 2013, argymhellodd Cyngor Ymgynghorol y DU ar Gamddefnyddio Cyffuriau (ACMD) i'r llywodraeth ail-ddosbarthu cetamin i fod yn gyffur Dosbarth B, ac ar 12 Chwefror 2014 cyhoeddodd y Swyddfa Gartref y byddent yn dilyn yr argymhelliad "yng ngoleuni'r dystiolaeth o ddamweiniau cronig sy'n gysylltiedig â defnyddio cetaminau, gan gynnwys difrod cronig i'r bledren a rhannau eraill o'r llwybr wrinol"

    Fel cyffur hamddenol mae'n cael ei hadnabod wrth yr enwau "y grintach werdd", "rockmesc", "K", "Citi", "Kallie Ziltz", "Cet", "Special K", "K2", "Fitamin K", "Super K",  "Piws",  "Skittles", "olew mêl" ac enwau eraill. Wedi ei gymysgu a chocên mae'n cael ei alw'n "CK" neu "Calvin Klein".

    Read next

    In 74 languages

    Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article