factograf
CY
Sign in

Cellfur

Cellfur
All data from the card 3
Enghraifft o:
cydran cellog
Math
strwythur amgylchol, allanol
Freebase
/M/01w63

Haen strwythurol o gwmpas rhai mathau o gelloedd yw cellfur, ychydig y tu allan i'r gellbilen. Gall fod yn wydn, yn hyblyg, ac weithiau'n anhyblyg. Mae'n cefnogi'r gell, yn strwythurol ac yn ei hamddiffyn. Mae hefyd yn gweithredu fel hidlydd. Mae cellfuriau'n bresennol yn y rhan fwyaf o brocariotau (heblaw am facteria mycoplasma), algâu, planhigion a ffwng, ond anaml iawn mewn ewcaryotau eraill gan gynnwys anifeiliaid.

Un o brif swyddogaethau'r gellfur yw i weithredu fel cynhwysydd gwasgedd, gan atal gor-ehangiad y gell pan ddaw dŵr i mewn, drwy osmosis.

Mae cyfansoddiad cellfuriau'n amrywio rhwng rhywogaethau a gall ddibynnu ar y math o gell a'r cam o fewn ei datblygiad. Ffurfir cellfuriau cynradd celloedd planhigion tir o'r polysaccharidau seliwlos, hemiseliwlos a phectin. Yn aml, mae polymerau eraill fel lignin, suberin neu cutin yn ymsefydlu o fewn waliau'r gellfur. Mae cellfuriau algâu yn cynnwys glycoproteinau a polysacaridau (e.e. carageenan ac agar), ond ni cheir y rhain mewn planhigion y tir. Mewn bacteria, mae'r gellfur wedi'i wneud o beptidoglycan ac mewn ffwng, N-acetylglucosamin polymer chitin yw deunydd y gellfur.

Read next

In 76 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article