factograf
CY

pentref yng Ngwynedd

Cefnddwysarn

Cefnddwysarn

Key facts

enghraifft o'r canlynolpentrefan
gwladwriaethy Deyrnas Unedig
lleolir yn yr ardal weinyddolLlandderfel
All data from the card 5
Math
pentrefan
Gwlad
Cymru
Cyfesurynnau
52.934°N 3.54°W
Cod OS
SH965385
Etholaeth y DU
Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref bychan yng nghymuned Llandderfel, Gwynedd, Cymru, yw Cefnddwysarn ( ynganiad) (neu Cefn-ddwysarn). Saif yn ardal Meirionnydd tua tri chwarter milltir i'r de-orllewin o bentref Sarnau ar briffordd yr A494 a rhyw dair milltir i'r dwyrain o'r Bala.

Rhwng y ddau bentref mae Cors y Sarnau. I'r gogledd mae bryn Cefn Caer-Euni â'i fryngaer fechan Caer Euni (neu Eini). I'r gorllewin mae tref Y Bala a Llyn Tegid ac ar orwel y dwyrain rhed llethrau cadarn Y Berwyn. Mae twmpath - safle castell pren efallai - ar ymyl Cefnddwysarn i'r de.

Enwogion y fro

Mae gan yr ardal hon le arbennig yn niwylliant Cymru. Er nad yw'n fawr o le mae wedi magu sawl person enwog.

Yno yn 1859 ar fferm y Cynlas y ganwyd Thomas Edward Ellis (Tom Ellis), un o wleidyddion disgleiriaf ei ddydd ac aelod blaenllaw o'r Rhyddfrydwyr a mudiad Cymru Fydd. Cafodd ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Dadorchuddiwyd y goflech iddo sydd i'w gweld yn yr eglwys heddiw gan Lloyd George yn 1910.

Er iddo gael ei eni yn Llanfor, treuliodd y bardd David Roberts (Dewi Havhesp) (1831-1884) y rhan helaeth o'i oes yng Nghefnddwysarn. Teiliwr ydoedd wrth ei alwedigaeth.

Bu'r bardd Robert Williams Parry yn brifathro ysgol Y Sarnau am flwyddyn yn y 1910au cynnar.

Un o enwogion eraill y fro yw Llwyd o'r Bryn, a aned ar fferm rhwng Cefnddwysarn a Llandderfel yn 1888. Mae ei lyfr adnabyddus Y Pethe yn llawn o ddigrifiadau ac atgofion o'r fro a'i chymdeithas drwyadl Gymraeg.

O ardal y Sarnau y daw'r ddau frawd, y prifeirdd Gerallt Lloyd Owen a Geraint Lloyd Owen. Mae rhai o gerddi gorau Gerallt yn ymwneud â chymeriadau a thirlun y fro. Geraint oedd Archdderwydd Cymru o 2016 i 2018 dan yr enw barddol Geraint Llifon.

Darllen pellach

  • T.I. Ellis, Crwydro Meirionnydd (1954)
  • Llwyd o'r Bryn, Y Pethe (1955)

Cyfeiriadau

Trefi a phentrefi Gwynedd

Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw  · Y Bala  · Bethesda  · Blaenau Ffestiniog  · Caernarfon  · Cricieth  · Dolgellau  · Harlech  · Nefyn  · Penrhyndeudraeth  · Porthmadog  · Pwllheli  · Tywyn
Pentrefi
Aberangell  · Aberdaron  · Aberdesach  · Aberdyfi  · Aber-erch  · Abergwyngregyn  · Abergynolwyn  · Aberllefenni  · Abersoch  · Afon Wen  · Arthog  · Beddgelert  · Bethania  · Bethel  · Betws Garmon  · Boduan  · Y Bont-ddu  · Bontnewydd (Arfon)  · Bontnewydd (Meirionnydd)  · Botwnnog  · Brithdir  · Bronaber  · Bryncir  · Bryncroes  · Bryn-crug  · Brynrefail  · Bwlchtocyn  · Caeathro  · Carmel  · Carneddi  · Cefnddwysarn  · Clynnog Fawr  · Corris  · Croesor  · Crogen  · Cwm-y-glo  · Chwilog  · Deiniolen  · Dinas, Llanwnda  · Dinas, Llŷn  · Dinas Dinlle  · Dinas Mawddwy  · Dolbenmaen  · Dolydd  · Dyffryn Ardudwy  · Edern  · Efailnewydd  · Fairbourne  · Y Felinheli  · Y Ffôr  · Y Fron  · Fron-goch  · Ffestiniog  · Ganllwyd  · Garndolbenmaen  · Garreg  · Gellilydan  · Glan-y-wern  · Glasinfryn  · Golan  · Groeslon  · Llanaber  · Llanaelhaearn  · Llanarmon  · Llanbedr  · Llanbedrog  · Llanberis  · Llandanwg  · Llandecwyn  · Llandegwning  · Llandwrog  · Llandygái  · Llanddeiniolen  · Llandderfel  · Llanddwywe  · Llanegryn  · Llanenddwyn  · Llanengan  · Llanelltyd  · Llanfachreth  · Llanfaelrhys  · Llanfaglan  · Llanfair  · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn)  · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant)  · Llanfihangel-y-traethau  · Llanfor  · Llanfrothen  · Llangelynnin  · Llangïan  · Llangwnadl  · Llwyngwril  · Llangybi  · Llangywer  · Llaniestyn  · Llanllechid  · Llanllyfni  · Llannor  · Llanrug  · Llanuwchllyn  · Llanwnda  · Llanymawddwy  · Llanystumdwy  · Llanycil  · Llithfaen  · Maentwrog  · Mallwyd  · Minffordd  · Minllyn  · Morfa Bychan  · Morfa Nefyn  · Mynydd Llandygái  · Mynytho  · Nantlle  · Nantmor  · Nant Peris  · Nasareth  · Nebo  · Pant Glas  · Penmorfa  · Pennal  · Penrhos  · Penrhosgarnedd  · Pen-sarn  · Pentir  · Pentrefelin  · Pentre Gwynfryn  · Pentreuchaf  · Pen-y-groes  · Pistyll  · Pontllyfni  · Portmeirion  · Prenteg  · Rachub  · Y Rhiw  · Rhiwlas  · Rhos-fawr  · Rhosgadfan  · Rhoshirwaun  · Rhoslan  · Rhoslefain  · Rhostryfan  · Rhos-y-gwaliau  · Rhyd  · Rhyd-ddu  · Rhyduchaf  · Rhydyclafdy  · Rhydymain  · Sarnau  · Sarn Mellteyrn  · Saron  · Sling  · Soar  · Talsarnau  · Tal-y-bont, Abermaw  · Tal-y-bont, Bangor  · Tal-y-llyn  · Tal-y-sarn  · Tanygrisiau  · Trawsfynydd  · Treborth  · Trefor  · Tre-garth  · Tremadog  · Tudweiliog  · Waunfawr

Read next

In 3 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article