factograf
CY

dinas, Ffrainc

Cannes

Cannes

Key facts

poblogaeth74,350
arwynebedd19.62km²
enghraifft o'r canlynolcommune, dinas
gwladwriaethFfrainc
uchder uwch na lefel y môr0m
pennaeth llywodraethDavid Lisnard
All data from the card 13
Math
cymuned, dinas
Poblogaeth
74,350
Pennaeth llywodraeth
David Lisnard
Gefeilldref/i
Fflorens
Gwlad
Ffrainc
Arwynebedd
19.62 km²
Uwch y môr
0 metr, 260 metr, 44 metr
Gerllaw
Môr y Canoldir
Yn ffinio gyda
Le Cannet, Mandelieu-la-Napoule, Mougins, La Roquette-sur-Siagne, Vallauris
Cyfesurynnau
43.5525°N 7.0214°E
Cod post
06400, 06150
Swydd pennaeth y Llywodraeth
Maer Cannes
Pennaeth y Llywodraeth
David Lisnard

Cymuned a thref yn ne Ffrainc yw Cannes. Saif ar arfordir y Côte d'Azur, yn département Alpes-Maritimes. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 72,400. Mae y traethau tywodlyd yma yn atyniad mawr i dwristiaid. Daw'r enw "Cannes" o enw Ffrangeg y Gawrgorsen (Arundo donax).

Pentref bychan yn dibynnu ar bysgota oedd Cannes hyd y 19g, ond o tua 1830 ymlaen dechreuodd dyfu'n gyflym wrth i ddosbarth uchaf ac yna ddosbarth canol Ffrainc ac ymwelwyr tramor, yn enwedig Saeson, ddechrau adeiladu tai haf yn y cylch. Crëwyd y traethau tywodlyd yn fwriadol er mwyn denu ymwelwyr. Cynhelir Gŵyl Ffilmiau Cannes yma bob blwyddyn ers 1946. Cynhelir yr ŵyl, ym mis Mai fel fel rheol, yn y Palais des Festivals et des Congrès.

Ceir diwydiannau yma heblaw twristiaeth; mae canolfan dechnoleg Sophia-Antipolis yn commune Valbonne yn y bryniau uwchben Cannes.

Read next

In 110 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article