
Dinas hanesyddol a phlwyf sifil yn sir seremonïol Wiltshire, De-orllewin Lloegr, yw Caersallog (Saesneg: Salisbury). Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Wiltshire. Mae'n gorwedd yn ne Wiltshire ar gymer afonydd Avon a Wylye. Mae'n adnabyddus am ei heglwys gadeiriol Gothig gyda'r tŵr eglwys uchaf ym Mhrydain, 123 medr (403 troedfedd) o uchder. Mae'r gadeirlan yn gartref i Esgob Caersallog.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 40,181.
Hanes
Lleolir Hen Sallog (Old Sarum) ger y ddinas. Bu bryngaer ar y safle yn Oes yr Haearn a chodwyd eglwys gadeiriol gyntaf Caersallog yno; symudwyd y gadeirlan i Sallog Newydd (New Sarum: Salisbury) yn y 13g.
Adeiladau a chofadeiladau
- Croes Dofednod
- Eglwys Gadeiriol Caersallog
- Tŷ Brenin (amgueddfa)
Enwogion
- Dave Dee (1941-2009), canwr
- Michael Crawford (g. 1942), actor a chanwr
- John Rhys-Davies (g. 1944), actor
Gweler hefyd
- Ardalydd Caersallog ac Iarll Caersallog
- Gwastadedd Caersallog (Salisbury Plain), lle ceir Cor y Cewri
- Rhestr enwau Cymraeg ar drefi a llefydd eraill yn Lloegr
Cyfeiriadau
Dinas
Caersallog
Trefi
Amesbury ·
Bradford on Avon ·
Calne ·
Corsham ·
Cricklade ·
Chippenham ·
Devizes ·
Highworth ·
Ludgershall ·
Malmesbury ·
Malborough ·
Melksham ·
Mere ·
Royal Wootton Bassett ·
Swindon ·
Tidworth ·
Trowbridge ·
Warminster ·
Westbury ·
Wilton