factograf
CY
Sign in

Butch Cassidy

Butch Cassidy

Key facts

dyddiad geni13 Ebrill 1866
dyddiad marw7 Tachwedd 1908
galwedigaethtroseddwr
man geniBeaver
man marwBolifia
All data from the card 4
Ganwyd
13 Ebrill 1866 Beaver
Bu farw
7 Tachwedd 1908 Bolifia
Dinasyddiaeth
Unol Daleithiau America
Galwedigaeth
troseddwr

Herwr a lleidr Americanaidd ac arweinydd y gang "Hole in the Wall" oedd Butch Cassidy (13 Ebrill 1866 – tua 7 Tachwedd 1908), ei enw genedigol oedd Robert LeRoy Parker.

Ganwyd Parker yn Beaver, Utah yn fab i Maximillian Parker ac Ann Campbell Gillies, y tad yn Sais a'r fam o'r Alban. Parker oedd y cyntaf o 13 o blant, magwyd ar ransh ei rieni yn Circleville, Utah, 215 milltir (346 km) i'r de o Salt Lake City.

Yn 1896 daeth yn ffrindiau gyda dyn o Bennsylvania, Harry Longabaugh (neu'r Sundance Kid), a ymunodd â gang "Hole in the Wall".

Saethu Llwyd ap Iwan

Ar 29 Rhagfyr 1909 saethwyd Llwyd ap Iwan (sef mab Michael D. Jones) yn farw gan ddau fandit Americanaidd o'r enw Wilson ac Evans wrth iddynt geisio dwyn arian oddi yno. Cred rhai mai Butch Cassidy a'r Sundance Kid oedd y ddau yma, ond ymddengys, bellach, eu bont eisoes wedi eu lladd ym Molifia cyn dyddiad y llofruddiaeth.

Read next

In 34 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article