Awdur a scriptiwr ffilm Americanaidd yw Brit Marling (ganwyd yn Chicago; 7 Awst 1982) sydd hefyd yn actores, yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilm a theledu.
aeth i amlygrwydd ar ôl serennu mewn sawl ffilm a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Sundance, gan gynnwys Sound of My Voice (2011), Another Earth (2011), a The East (2013), a ysgrifennodd ar y cyd yn ogystal â chwarae'r rôl blaenllaw. Mae wedi cyd-greu, ysgrifennu, a serennu yn y gyfres Netflix, The OA, a ddechreuodd yn 2016.
Magwraeth

Ganwyd Marling yn Chicago, Illinois, yn ferch i ddatblygwyr eiddo: John a Heidi Marling. Fe'i henwyd yn "Brit" ar ôl ei hen fam-gu Norwyaidd. Mae ganddi ddwy chwaer: Morgan Marling, sy'n awdur, a Francesca Gregorini.
Cafodd ei magu yn Winnetka, Illinois, lle mynychodd rhaglen gelfyddydau Ysgol Uwchradd Dr Phillips. Roedd gan Marling ddiddordeb mewn actio, ond anogodd ei rhieni hi i ganolbwyntio ar waith academaidd.
Graddiodd o Brifysgol Georgetown yn 2005 gyda graddau mewn economeg a chelf stiwdio, a hi oedd valedictorian ei dosbarth.
Anrhydeddau
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Actores Orau Gŵyl Ffilm Sitges (2011), Gwobr Beirniaid Ffilm San Diego am yr Actores Orau (2011), Alfred P. Sloan Prize (2011).
