Grŵp pop Gwyddelig a fu'n llwyddiannus yn ystod y 1990au oedd Boyzone. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd, Asia a'r Deyrnas Unedig cawsanf fwyaf o lwyddiant er iddynt fod yn llwyddiannus i raddau llai mewn gwledydd eraill yng Nghanol Ewrop. Rhyddhaodd y band chwech cân a phedwar albwm aeth i rif 1, a chawsant werthiant o'n agos i 20 miliwn o recordiau erbyn 2008.
Crewyd Boyzone ym 1993 gan Louis Walsh sy'n adnabyddus hefyd am reoli Johnny Logan a Westlife.
