factograf
CY
Sign in

Boicot

Boicot

Gwrthodiad i ymwneud â chwmni, unigolyn, gwlad, neu rywbeth arall, gan amlaf fel protest, cosb neu ymgyrch, yw boicot. Daw'r enw o'r Capten Charles Cunningham Boycott (1832–97), asiant o Sais a oedd yn cynrychioli'r landlord absennol yr Arglwydd Erne yn Swydd Mayo, Iwerddon. Fe gafodd ei dargedu gan y Gynghrair Dir a'i anwybyddu gan y gymuned leol. Ymddangosodd y ferf Saesneg boycott ym 1880, a cheir enghraifft o'r gair yn Gymraeg o 1887 ym Maner ac Amserau Cymru.

Yng nghysylltiadau rhyngwladol, gelwir boicotiau swyddogol gan un wladwriaeth, neu garfan ohonynt, yn erbyn gwladwriaeth arall yn sancsiynau.

Read next

In 70 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article