factograf
CY

Cerddor reggae o Jamaica (1945–1981)

Bob Marley

Bob Marley

Key facts

dyddiad geni6 Chwefror 1945
dyddiad marw11 Mai 1981
''alma mater''Ysgol Gynradd ac Uwchradd Stepney
galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, canwr, gitarydd
priodRita Marley
gwobrau a dderbyniwydGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes
All data from the card 15
Ganwyd
Robert Nesta Marley 6 Chwefror 1945 Nine Mile
Bu farw
11 Mai 1981 o melanoma, canser ar yr ymennydd, canser yr ysgyfaint Jackson Memorial Hospital
Label recordio
Studio One, Beverley's Records, Wail N Soul M, Upsetter Records, Island Records, Trojan Records, Tuff Gong
Dinasyddiaeth
Jamaica
Alma mater
Ysgol Gynradd ac Uwchradd Stepney
Galwedigaeth
canwr-gyfansoddwr, canwr, gitarydd, cyfansoddwr
Arddull
reggae, Ska, rocksteady
Math o lais
tenor
Prif ddylanwad
Curtis Mayfield, Jackie Wilson, Laurel Aitken, The Skatalites, Fats Domino, Prince Buster, The Isley Brothers, Smokey Robinson, Joe Higgs, Marcus Garvey, Coxsone Dodd, James Brown, The Flamingos, John Holt, The Paragons
Tad
Norval Sinclair Marley
Mam
Cedella Booker
Priod
Rita Marley
Plant
Ziggy Marley, Cedella Marley, Stephen Marley, Rohan Marley, Julian Marley, Ky-Mani Marley, Damian Marley, Sharon Marley
Gwobr/au
Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Rock and Roll Hall of Fame, Urdd Teilyngdod, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood
Gwefan
http://bobmarley.com
Fflat Bob Marley ym 1972 yn 34 Ridgmount Gardens, Bloomsbury, Llundain
Fflat Bob Marley ym 1972 yn 34 Ridgmount Gardens, Bloomsbury, Llundain

Roedd Robert Nesta Marley OM (6 Chwefror 1945 – 11 Mai 1981) yn ganwr reggae o Jamaica, yn gitarydd ac yn gyfansoddwr caneuon byd enwog. Caiffl ei ystyried yn un o arloeswyr y genre reggae, a chyfunodd elfennau o reggae, ska, a rocksteady yn ei gerddoriaeth; daeth yn enwog am ei arddull lleisiol a chyfansoddi unigryw. Daeth a cherddoriaeth Jamaica i'r amlwg ledled y byd. Yn ystod ei yrfa, daeth Marley yn adnabyddus fel eicon Rastaffaraidd, a thrwythodd ei gerddoriaeth ag ymdeimlad o ysbrydolrwydd.

Mae hefyd yn cael ei ystyried yn symbol byd-eang o gerddoriaeth a diwylliant Jamaica a hunaniaeth pobl, a chefnogodd, yn ddi-flewyn-ar-dafod, ddiwygiadau cymdeithasol heddychol yn ei wlad. Roedd hefyd yn cefnogi cyfreithloni canabis, ac yn eiriol dros Traws-Affricaniaeth. Ym 1976, cafwyd ymgais i'w lofruddio yn ei gartref, ymgais wleidyddol, yn fwy na thebyg.

Yn enedigol o Nine Mile, Jamaica, dechreuodd Marley ei yrfa gerddorol broffesiynol ym 1963, ar ôl ffurfio’r grŵp Teenagers gyda Peter Tosh a Bunny Wailer, a fyddai, ar ôl sawl newid enw, yn dod yn Wailers. Rhyddhaodd y grŵp ei albwm stiwdio gyntaf The Wailing Wailers ym 1965, a oedd yn cynnwys y sengl "One Love", a oedd yn ail-bobiad o "People Get Ready"; daeth y gân yn boblogaidd ledled y byd, a sefydlwyd y grŵp dros nos fel prif fand reggae. Yn dilyn hyn, rhyddhaodd The Wailers 11 albwm stiwdio ychwanegol, ac ar ôl arwyddo i Island Records, newidiwyd enw'r band i Bob Marley and the Wailers. Wrth ddefnyddio offerynau uchel eu sain a chanu uwch i ddechrau, dechreuodd y grŵp gymryd rhan mewn adeiladu caneuon rhythmig yn y 1960au hwyr a'r 1970au cynnar, a oedd yn cyd-daro â throsiad Marley i Rastafariaeth. Tua'r amser hwn, ac oherwydd perygl i'w fywyd, symudodd Marley i Lundain. Ymgorfforodd y grŵp eu sifft gerddorol yn eu halbwm The Best of The Wailers (1971).

Dechreuodd y grŵp gael sylw rhyngwladol ar ôl arwyddo i Island, gan deithio i hybu'r albymau Catch a Fire a Burnin' (y ddau yn 1973). Yn dilyn diddymu'r Wailers flwyddyn yn ddiweddarach, parhaodd Marley i ganu o dan enw'r band. Cafodd yr albwm Natty Dread (1974) dderbyniad cadarnhaol. Yn 1975, yn dilyn poblogrwydd byd-eang fersiwn Eric Clapton o "I Shot the Sheriff" gan Marley, tdaeth Marley i enwogrwydd rhyngwladol gyda'i hit cyntaf y tu allan i Jamaica, pan gyhoeddwyd y fersiwn fyw o "No Woman, No Cry", ar yr albwm Live! Dilynwyd hyn gan ei albwm arloesol yn yr Unol Daleithiau, Rastaman Vibration (1976), a gyrhaeddodd 50 Uchaf y Billboard Soul Charts. Ychydig fisoedd ar ôl rhyddhau Rastaman Vibration, goroesodd Marley ymgais i'w lofruddio yn ei gartref yn Jamaica, ymgais a ysgogodd ef i adleoli'n barhaol i Lundain, lle recordiodd yr albwm Exodus, a oedd yn ymgorffori elfennau o'r felan, soul, a roc Prydeinig, a chafodd lwyddiant masnachol ysguboll. Ym 1977, cafodd Marley ddiagnosis o felanoma lentiginous acral ar ei droed; bu farw o ganlyniad i'r afiechyd yn 1981, yn fuan ar ôl ei fedyddio i Eglwys Uniongred Ethiopia. Mynegodd ei gefnogwyr ledled y byd eu galar, a derbyniodd angladd genedlaethol yn Jamaica.

Rhyddhawyd yr albwm fwyaf, sef Legend ym 1984, a daeth yn albwm reggae a werthodd fwyaf erioed. Mae Marley hefyd yn un o'r artistiaid cerdd sydd wedi gwerthu orau erioed, gydag amcangyfrif y gwerthiant yn fwy na 75 miliwn o recordiau ledled y byd. Cafodd ei anrhydeddu gan Jamaica yn fuan ar ôl ei farwolaeth pan roddwyd iddo Urdd Teilyngdod. Ym 1994, ar ôl ei farwolaeth, cafodd ei sefydlu yn Oriel Anfarwolion Roc a Rôl. Gosododd y cylchgrawn Rolling Stone ef yn rhif 11 ar ei restr o'r 100 Artist Mwyaf erioed. a Rhif 98 ar ei restr o'r 200 o Gantorion Mwyaf erioed. Mae ei gyflawniadau eraill yn cynnwys Gwobr Grammy Lifetime Achievement Award, seren ar y Hollywood Walk of Fame, a chyflwyniad i'r Black Music & Entertainment Walk of Fame.

Bywyd personol

Ymerawdwr Ethiopia Haile Selassie Roeddwn un o arwyr Bob Marley
Ymerawdwr Ethiopia Haile Selassie Roeddwn un o arwyr Bob Marley
Cerflun Marley yn Kingston
Cerflun Marley yn Kingston
2 images

Crefydd a chredoau

Roedd Bob Marley'n aelod o'r mudiad Rastafaraidd, yr oedd ei ddiwylliant yn elfen allweddol yn natblygiad reggae. Daeth yn gefnogwr selog i Rastafariaeth, gan fynd â'i gerddoriaeth allan o ardaloedd difreintiedig yn Jamaica ac i'r sin gerddoriaeth ryngwladol. Fel rhan o fod yn Rastafariwr teimlai fod Haile Selassie I o Ethiopia yn ymgnawdoliad o Dduw neu "Jah". Fodd bynnag, yn ddiweddarach yn ei fywyd trosodd i Gristnogaeth Uniongred Ethiopia a chafodd ei fedyddio gan yr Archesgob Abuna Yesehaq ym mhresenoldeb ei wraig Rita Marley a'u plant, gyda'r enw Berhane Selassie, ar 4 Tachwedd 1980, ychydig cyn ei farwolaeth.

Fel Rastaffariad cefnogai Marley gyfreithloni canabis neu “ganja”, y mae Rastaffariaid yn credu ei fod yn gymorth i fyfyrio. Dechreuodd Marley ddefnyddio canabis pan drodd at y ffydd Rastafari o Gatholigiaeth ym 1966. Cafodd ei arestio yn 1968 ar ôl cael ei ddal gyda chanabis ond parhaodd i ddefnyddio marijuana yn unol â'i gredoau crefyddol. Am hyn, dywedodd, "Pan fyddwch yn ysmygu perlysiau, mae'r perlysiau'n datgelu eich hun i chi. Mae'r perlysiau yn datgelu i chi eich holl ddrygioni mewnol, a'ch cydwybod, gan ddangos eich hun yn glir, oherwydd fod y perlysiau'n hollol naturiol, ac yn gwneud i chi fyfyrio, gan dyfu ynoch fel coeden." Roedd Marley yn gweld y defnydd o marijuana fel ffactor hanfodol mewn i'w dwf crefyddol a'i gysylltiad â Jah, ac fel ffordd i athronyddu a dod yn ddoethach.

Teulu

Priododd Bob Marley Alfarita Constantia "Rita" Anderson yn Kingston, Jamaica, ar 10 Chwefror 1966. Roedd ganddo nfer o blant: ganed tri i'w wraig Rita, a mabwysiadwyd dau blentyn ychwanegol o berthnasoedd blaenorol Rita, a rhoddwyd iddynt yr enw Marley. Mae gwefan swyddogol Bob Marley yn cydnabod 11 o blant i gyd.

Y rhai a restrir ar y safle swyddogol yw:

  1. Sharon, ganed 23 Tachwedd 1964, merch Rita o berthynas flaenorol, ond a fabwysiadwyd wedyn gan Marley ar ôl ei briodas â Rita
  2. Cedella, ganwyd 23 Awst 1967, i Rita
  3. David "Ziggy", ganed 17 Hydref 1968, i Rita
  4. Stephen, ganwyd 20 Ebrill 1972, i Rita
  5. Robert "Robbie", ganwyd 16 Mai 1972, i Pat Williams
  6. Rohan, ganwyd 19 Mai 1972, i Janet Hunt
  7. Karen, ganwyd 1973, i Janet Bowen
  8. Stephanie, ganwyd 17 Awst 1974, o berthynas y tu allan i briodas, a gafodd Rita gyda'r cyn-chwaraewr pêl-droed Owen "Ital Tacky" Stewart; serch hynny, mabwysiadodd Bob Stephanie fel ei blentyn ei hun a rhoddodd hawl iddi i'w stad.
  9. Julian, ganwyd 4 Mehefin 1975, i Lucy Pounder
  10. Ky-Mani, ganwyd 26 Chwefror 1976, i Anita Belnavis
  11. Damian, ganwyd 21 Gorffennaf 1978, i Cindy Breakspeare

Mae gan Marley hefyd nifer o wyrion nodedig, gan gynnwys y cerddorion Skip Marley ac YG Marley, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd Nico Marley, a'r model Selah Marley.

Disgyddiaeth

  • The Wailing Wailers (1965)
  • Soul Rebels (1970)
  • Soul Revolution (1971)
  • The Best of The Wailers (1971)
  • Catch a Fire (1973)
  • Burnin (1973)
  • Natty Dread (1974)
  • Live! (1975 - live)
  • Rastaman Vibration (1976)
  • Exodus (1977)
  • Kaya (1978)
  • Babylon by Bus (1978 - yn fyw)
  • Survival (1979)
  • Uprising (1980)
  • Confrontation (1983)

Read next

In 135 languages

cyAfrikaansAlemannischአማርኛaragonésÆngliscالعربيةالدارجةمصرىঅসমীয়াasturianuAymar aruazərbaycancaتۆرکجهBoarischBikol Centralбеларуская (тарашкевіца)беларускаябългарскиBanjarবাংলাbrezhonegbosanskicatalàکوردیcorsučeštinaчӑвашлаdanskDeutschZazakiKadazandusunΕλληνικάEnglishEsperantoespañoleestieuskaraفارسیsuomiføroysktfɔ̀ngbèfrançaisarpetanNordfriiskGaeilgegalego𐌲𐌿𐍄𐌹𐍃𐌺Hausaעבריתहिन्दीhrvatskiKreyòl ayisyenmagyarհայերենԱրեւմտահայերէնBahasa IndonesiaIgboIdoíslenskaitaliano日本語PatoisJawaქართულიKabɩyɛқазақшаಕನ್ನಡ한국어kurdîLatinaLëtzebuergeschlombardlingálalietuviųlatviešuमैथिलीMalagasyмакедонскиമലയാളംмонголဘာသာမန်Bahasa MelayuMaltiNedersaksiesPlattdüütschनेपालीNederlandsnorsk nynorsknorskoccitanਪੰਜਾਬੀPapiamentupolskiPiemontèisپنجابیNawatportuguêsRuna SimiromânăarmãneashtiрусскийsardusicilianuScotssrpskohrvatski / српскохрватскиTaclḥitසිංහලSimple Englishslovenčinaslovenščinashqipсрпски / srpskiSesothosvenskaKiswahiliślůnskiதமிழ்తెలుగుไทยTagalogtoki ponaTürkçeукраїнськаoʻzbekcha / ўзбекчаTshivendavènetoTiếng ViệtWinaray吴语მარგალურიYorùbáZeêuws粵語中文

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article