factograf
CY

Bibcode

All data from the card 4
Enghraifft o:
dynodwr parhaus
Math
dynodwr unigryw
Gwefan
https://ui.adsabs.harvard.edu/help/actions/bibcode
Freebase
/M/03ct9wb

Math o ddynodwr a ddefnyddir i gyfeirio at lenyddiaeth seryddol ac astroffisegol yw Bibcode. Defnyddir Bibcodes yn benodol gan y cronfeydd data seryddol SIMBAD ac NED, yn ogystal â'r System Data Astroffiseg, cronfa ddata gynhwysfawr o lenyddiaeth ym meysydd seryddiaeth ac astroffiseg. Cyflwynwyd y system Bibcode ym 1995.

Mae Bibcode yn cynnwys 19 o nodau (llythrennau, rhifau, atalnod, arwydd canran, a cholon) ac mae ganddo'r fformat:

YYYYJJJJJVVVVMPPPPA

Lle:

  • YYYY = blwyddyn y cyhoeddiad
  • JJJJJ = cod ar gyfer y ffynhonnell (cyfnodolyn, llyfr, traethawd ymchwil ac ati)
  • VVVV = rhif cyfrol y cyfnodolyn
  • M = adran neu ran o'r cyhoeddiad
  • PPPP = rhifau tudalen
  • A = llythyren gyntaf cyfenw'r awdur a enwir gyntaf. Os na ellir pennu hyn, defnyddir colon (:). Nid yw rhai llyfrau'n cydymffurfio â'r fformat arferol; yn yr achos hwnnw defnyddir arwydd canran (%).

Read next

In 65 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article