factograf
CY

athro, gwleidydd, newyddiadurwr (1883-1945)

Benito Mussolini

Benito Mussolini

Key facts

dyddiad geni29 Gorffennaf 1883
dyddiad marw28 Ebrill 1945
''alma mater''Prifysgol Lausanne
galwedigaethnewyddiadurwr, athro, gwleidydd
priodRachele Mussolini
gwobrau a dderbyniwydUrdd yr Eryr Gwyn
All data from the card 16
Ganwyd
Benito Amilcare Andrea Mussolini 29 Gorffennaf 1883 Predappio
Bu farw
28 Ebrill 1945 Giulino
Man preswyl
Palazzo Venezia, Villa Torlonia, Romandy
Dinasyddiaeth
Italian Social Republic, Teyrnas yr Eidal
Alma mater
Prifysgol Lausanne
Galwedigaeth
newyddiadurwr, athro, gwleidydd
Cyflogwr
Avanti!
Plaid Wleidyddol
Republican Fascist Party, Plaid Ffasgaidd Genedlaethol, Plaid Sosialaidd yr Eidal, Fasci Italiani di Combattimento, Revolutionary Fascist Party
Mudiad
Italian nationalism, Ffasgaeth
Tad
Alessandro Mussolini
Mam
Rosa Maltoni
Priod
Rachele Mussolini, Ida Dalser
Partner
Ida Dalser, Margherita Sarfatti, Clara Petacci, Bianca Ceccato
Plant
Bruno Mussolini, Edda Mussolini, Vittorio Mussolini, Anna Maria Mussolini, Romano Mussolini, Benito Albino Dalser
Perthnasau
Galeazzo Ciano, Alessandra Mussolini, Romano Floriani Mussolini
Llinach
Mussolini family

Roedd Benito Amilcare Andrea Mussolini (29 Gorffennaf 1883 - 28 Ebrill 1945) yn wleidydd o'r Eidal ddaeth yn arweinydd plaid y Ffasgwyr yn yr Eidal pan y'i ffurfiwyd yn 1919. Daeth yn brifweinidog yr Eidal yn 1922. Rheolodd y wlad fel unben. Yn 1940 ymunodd yr Eidal dan arweinyddiaeth Mussolini yn yr Ail Ryfel Byd ar ochr Adolf Hitler. Fe'i lladdwyd gan wrthryfelwyr Eidalaidd yn Ebrill 1945.

Hanes

O'r chwith i'r dde, gallwch weld cyrff difywyd y cyn wleidydd comiwnyddol Nicola Bombacci, y Duce Benito Mussolini, ei gariad ffyddlon Clara Petacci, y gweinidog Alessandro Pavolini a'r gwleidydd ffasgaidd enwog Achille Starace, yn cael eu harddangos yn y…
O'r chwith i'r dde, gallwch weld cyrff difywyd y cyn wleidydd comiwnyddol Nicola Bombacci, y Duce Benito Mussolini, ei gariad ffyddlon Clara Petacci, y gweinidog Alessandro Pavolini a'r gwleidydd ffasgaidd enwog Achille Starace, yn cael eu harddangos yn y…

Dechreuodd Mussolini ar ei yrfa wleidyddol fel sosialydd brwd, ond cefnogodd ymuno'r Eidal yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei fwrw allan o Blaid Sosialaidd mewn canlyniad yn 1915. Yn 1919 ffurfiodd y Fasci di combattimento (Y Crysau Duon). Daeth i rym ar ôl arwain ymdaith y Crysau Duon i Rufain yn 1922. Bu'n brif weinidog hyd 1924 pan lofruddwyd Giacomo Matteoti a datganodd ei hun yn unben ar yr Eidal dan y teitl Il duce ('Yr Arweinydd').

Fel Il duce roedd ei lywodraeth yn mwynhau cefnogaeth boblogaidd ar y dechrau. Cyflwynodd raglenni o waith cyhoeddus, gosododd drefn ar y wlad yn dilyn anhrefn ac ansicrwydd y cyfnod ôl-Ryfel, a adferodd freintiau'r Eglwys Gatholig Rufeinig. Dyma'r dyn "a wnaeth y trenau redeg ar amser". Cododd sawl adeilad a chofeb rhwysgfawr yn yr arddull Neo-Glasurol, wedi'u ysbrydoli gan 'fawredd' yr Ymerodraeth Rufeinig. Ond roedd yn llawdrwm iawn ar unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol hefyd a dioddefodd nifer o Eidalwyr am eu daliadau dan ei lywodraeth a chreulondeb brwnt y Crysau Duon.

Ceisiodd ymestyn grym yr Eidal a sefydlu ei hawdurdod yn Affrica. Anfonodd fyddin i oresgyn Ethiopia yn 1935. Yn 1936 ffurfiodd gynghrair gydag Adolf Hitler a'r Natsïaid a alwyd yn Echel Rhufain-Berlin. Yn 1939 cipiodd Albania a phan dorrodd yr Ail Ryfel Byd allan cyhoeddodd ryfel yn erbyn Prydain a Ffrainc ym Mehefin 1940. Ond roedd y rhyfel yn drychinebus i'r Eidal a chafwyd colledion mawr yng Libia, Corn Affrica a Gwlad Groeg. Pan oresgynodd y Cynghreiriaid ynys Sisili yn 1943, gorfodwyd Mussolini i ymddeol o rym gan Gyngor Mawr y Blaid Ffasgaidd. Ffoes o Rufain i ogledd yr Eidal lle sefydlodd weriniaeth ffasgaidd newydd dan nawdd yr Almaenwyr. Cafodd ef a'i fistres Clara Petacci eu dal gan y partisanwyr a'u dienyddio. Crogwyd eu cyrff mewn sgwar ym Milan cyn eu claddu. Roedd unbennaeth Mussolini ar ben.

Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Luigi Facta
Prif Weinidog yr Eidal
31 Hydref 1922 – 25 Gorffennaf 1943
Olynydd:
Pietro Badoglio

Read next

In 154 languages

cyAfrikaansAlemannischአማርኛaragonésÆngliscअंगिकाالعربيةالدارجةمصرىasturianuаварअवधीazərbaycancaBasa BaližemaitėškaBikol Centralбеларуская (тарашкевіца)беларускаябългарскиभोजपुरीবাংলাbrezhonegbosanskicatalà閩東語 / Mìng-dĕ̤ng-ngṳ̄CebuanoکوردیcorsučeštinaчӑвашлаdanskDeutschZazakiΕλληνικάemiliàn e rumagnòlEnglishEsperantoespañoleestieuskaraestremeñuفارسیsuomivõrofrançaisNordfriiskfurlanFryskGaeilgeGàidhliggalegoAvañe'ẽGaelgעבריתहिन्दीhrvatskimagyarհայերենBahasa IndonesiaIdoíslenskamedžuslovjanskyitaliano日本語JawaქართულიTaqbaylitқазақшаಕನ್ನಡ한국어kurdîкомиkernowekкыргызчаLatinaLëtzebuergeschлезгиLingua Franca NovaLimburgsLigurelombardlietuviųlatviešuMadhurâमैथिलीMalagasyмакедонскиമലയാളംмонголमराठीBahasa MelayuMaltiMirandésမြန်မာဘာသာمازِرونیNedersaksiesPlattdüütschनेपालीNederlandsnorsk nynorsknorskߒߞߏoccitanиронਪੰਜਾਬੀPapiamentupolskiPiemontèisپنجابیportuguêsRuna Simiromânăрусскийसंस्कृतम्sardusicilianuScotssrpskohrvatski / српскохрватскиසිංහලSimple EnglishslovenčinaslovenščinaSoomaaligashqipсрпски / srpskiSundasvenskaKiswahiliślůnskiதமிழ்తెలుగుไทยTagalogtolışitoki ponaTürkçeтатарча / tatarçaукраїнськаاردوoʻzbekcha / ўзбекчаvènetoTiếng ViệtVolapükWinaray吴语მარგალურიייִדישYorùbáZeêuws文言閩南語 / Bân-lâm-gí粵語中文

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article