factograf
CY

baner

Baner Lesotho

Baner Lesotho
Baner gyfredol Lesotho Cymesuredd 2:3
Baner gyfredol Lesotho Cymesuredd 2:3
Baner Lesotho, 1987–2006
Baner Lesotho, 1987–2006
Baner Lesotho 1966–1987
Baner Lesotho 1966–1987
3 images

Ers annibyniaeth yn 1966 mae Lesotho wedi newid ei baner genedlaethol sawl gwaith. Mabwysiadwyd baner gyfredol Lesotho ar 4 Hydref 2006 ar bedwar deg mlwyddiant annibyniaeth y wlad. Adnabwyd y wlad fel Basutoland yn ystod y cyfnod drefedigaethol. Er gwaethaf y ffaith fod y wlad wedi ei hamgylchynu gan Dde Affrica bu'n drefedigaeth arwahân a daeth yn wladwriaeth annibynnol yn 1966.

Dyluniad

Mae'r faner gyfredol yn faner trilliw llorweddol, glas, gwyn a gwyrdd gyda "mokorotlo" ddu (het draddodiadol y Basotho, pobl y wlad) yn y canol. Bwriad y cynllun yw adlewyrchu cenedl sy'n heddychlon yn fewnol a chyda'i chymydog De Affrica, gan ddisodli'r hen ddyluniad baner a oedd yn cynnwys arwyddlun milwrol o darian, gwaywffon a chobiwr.

Symbolaeth y lliwiau yw:

Lliw Ystyr
Glas cynrychioli'r awyr neu'r glaw
Gwyrdd cynrychioli llewyrch
Gwyn cynrychioli heddwch. Mae gan Lesotho athroniaeth heddychlon ers gyfnod y Brenin Moshoeshoe I.

Cyn-faneri Lesotho

Cyflwynwyd baner gyntaf Lesotho ar 4 Hydref 1966, diwrnod annibyniaeth Lesotho o'r Deyrnas Unedig. Roedd yn cynnwys het draddodiadol mokorotlo gwyn amlwg ar faes glas. Roedd y glas yn symbol o'r awyr a glaw; y gwyn am heddwch; y gwyrdd ar gyfer tir, a'r coch am ffydd.

Dau ddeg un mlynedd yn hwyrach, mabwysiadwyd baner newydd, ar 20 Ionawr 1987. Cynlluniwyd y faner gan y Rhingyll Retšelisitsoe Matete, yn dilyn coup milwrol a dynnodd grym oddi ar Plaid Genedlaethol Basotho wedi iddynt fod am 20 mlynedd mewn grym. Disodlodd darlun yr het gan darian Basotho draddodiadol ysgafn mewn lliw brown ynghyd ag assegai (picell neu waywffon drywanu draddodiadol) a'r knobkierrie (pastwn filrwrol). Newidiodd y cynllun lliw a'r patrwm hefyd, gyda maes gwyn trionglog yn sefyll dros heddwch ac yn lletraws ar waelod y faner stribed glas ar gyfer glaw a thriongl gwyrdd ar gyfer ffyniant.

Baner Gyfredol ers 2006

Yn 2006, dewiswyd baner newydd o bedwar cynllun arfaethedig; roedd yr holl ddyluniadau hyn yn cynnwys het Basotho brown yn hytrach na'r tarian. Yn dilyn hynny newidiwyd hwn i het Basotho ddu er mwyn cynrychioli Lesotho fel cenedl ddu. Cymeradwywyd y mesur i newid y faner gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 18 Medi 2006, gyda 84 o aelodau seneddol yn pleidleisio o'i blaid, 18 yn ei erbyn, a dau yn ymatal. Cafodd ei gymeradwyo wedyn gan y Senedd hefyd.

Oriel

Baner drefedigaethol answyddogol Basutoland c. 1884
Baner drefedigaethol answyddogol Basutoland c. 1884
Baner Drefedigaethol answyddogol Basutoland (hen enw Lesotho) rhwng 1951 - 1966
Baner Drefedigaethol answyddogol Basutoland (hen enw Lesotho) rhwng 1951 - 1966
Baner genedlaethol rhwng 1966 - 1987
Baner genedlaethol rhwng 1966 - 1987
Baner genedlaethol rhwng 1987 - 2006
Baner genedlaethol rhwng 1987 - 2006
Ystondord Frenhinol Lesotho rhwng 1966 - 1987
Ystondord Frenhinol Lesotho rhwng 1966 - 1987
Ystondord Frenhinol Lesotho rhwng 1987 -2006
Ystondord Frenhinol Lesotho rhwng 1987 -2006
Ystondard Frenhinol Lesotho ers 4 Hydref 2006
Ystondard Frenhinol Lesotho ers 4 Hydref 2006
7 images

Baneri Hanesyddol Lesotho

Ystondardau Brenhinol

Dolenni allanol

  • Lesotho gan Flags of the World.
Eginyn erthygl sydd uchod am Lesotho. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 67 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article