Dinas a chymuned (comune) yng nghanolbarth yr Eidal yw Arezzo, sy'n brifddinas talaith Arezzo yn rhanbarth Toscana.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 98,144.
Adeiladau a chofadeiladau
- Amffitheatr Rhufeinig
- Basilica Sant Ffransis
- Eglwys Gadeiriol Sant Donatus
- Fraternita dei Laici
- Palas Cofani-Brizzolari,
- Palas yr Esgob
- Santa Maria della Pieve (eglwys)
- Tŷ Vasari
- Vasari Loggia
Enwogion
- Guido d'Arezzo (fl. 992–1033), damcanydd cerddoriaeth
- Francesco Petrarca ("Petrarch") (1304–1374), bardd
- Pietro Aretino (1492–1556), bardd a dramodydd
- Giorgio Vasari (1511–1574), arlunydd ac awdur
- Antonio Cesti (1623–1669), cyfansoddwr
- Francesco Severi (1879–1961), mathemategydd