Gwleidydd o'r Alban yw Anne McLaughlin (ganwyd 8 Mawrth 1966) a oedd yn Aelod Seneddol dros Gogledd-ddwyrain Glasgow rhwng 2015 a 2017. Roedd Anne yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. Bu'n Aelod o Senedd yr Alban rhwng 2009 a 2011. Hi oedd Llefarydd yr SNP dros Hawliau Dinesig.
Fe'i ganed yn Greenock, Swydd Renfrew cyn symud i Glasgow. Mae wedi gweithio'n egniol iawn dros safonnau Saesneg plant Glasgow.
Etholiad 2015
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban. Yn yr etholiad hon, derbyniodd Anne McLaughlin 21,976 o bleidleisiau, sef 58% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd aruthrol o +43.9 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 9,222 pleidlais.
