factograf
CY
Sign in

bardd a nofelydd

Ann Hatton

Ann Hatton

Key facts

dyddiad geni29 Ebrill 1764
dyddiad marw26 Rhagfyr 1838
galwedigaethnofelydd, bardd, llenor
man geniCaerwrangon
man marwAbertawe
priodC. Curtis
All data from the card 8
Ffugenw
Ann of Swansea
Ganwyd
Ann Julia Kemble 29 Ebrill 1764 Caerwrangon
Bu farw
26 Rhagfyr 1838 Abertawe
Dinasyddiaeth
Cymru
Galwedigaeth
nofelydd, bardd, ysgrifennwr
Tad
Roger Kemble
Mam
Sarah Ward
Priod
C. Curtis, William Hatton
Plac coffa yn Abertawe
Plac coffa yn Abertawe

Nofelydd o Gymru oedd Julia Ann Hatton (née Kemble) neu Ann of Swansea) (29 Ebrill 1764 – 26 Rhagfyr 1838). Hi oedd awdur Tammany, y libreto cyntaf y gwyddys amdano gan fenyw.

Ganed Ann Hatton yng Nghaerwrangon, yn ferch i'r cerddor crwydrol Roger Kemble. Roedd hi'n chwaer i'r actorion Sarah Siddons a John Philip Kemble. Roedd aelodau eraill o deulu Kemble hefyd yn actorion. Prentisiwyd Ann i actor Eidalaidd cyn mynd ar y llwyfan.

Yn 1783, yn un deg naw oed, priododd yr actor, C. Curtis, ond yn fuan daeth i ddeall ei fod eisoes yn briod. Gadawyd Ann yn y fath gyfyngder ariannol nes iddi yn y flwyddyn honno apelio am gymorth gan y cyhoedd mewn hysbyseb papur newydd, a cheisiodd ladd ei hun yn Abaty Westminster. Er mwyn goroesi enillodd ei bywoliaeth fel "model" mewn puteindy enwog yn Llundain ac yno fe'i saethwyd hi, yn ddamweiniol yn ei hwyneb. Adroddwyd hyn yn y papurau newydd lleol, sy'n sôn am ei "hafoesoldeb", a'i "meddwl balch a chryf."

Erbyn 1799 roedd Ann a William wedi dychwelyd i Gymru, gan ymsefydlu yn Abertawe; bu'n rhedeg baddondy a llety glan y môr hyd at farwolaeth William yn 1806. O 1806 hyd 1809 bu Ann yn cadw ysgol ddawnsio yng Nghydweli, ond o 1809 ymlaen preswyliodd yn Abertawe a daeth yn llenor adnabyddus. Rhwng 1810 a 1831 ysgrifennodd farddoniaeth, ac un deg pedwar o nofelau sy'n cynnwys themâu gothig ar gyfer Minerva Press, gan ddefnyddio'r ffugenw "Ann of Swansea".

Llyfryddiaeth

Barddoniaeth

  • Poems on Miscellaneous Subjects (1783)
  • Poetic Trifles (1811)

Nofelau

  • Cambrian Pictures (1810)
  • Sicilian Mysteries (1812)
  • Chronicles of an Illustrious House (1816)
  • Lovers and Friends; or, Modern Attachments (1821)

Drama

  • Tammany: The Indian Chief (1794)

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Read next

In 4 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article