Actor a chomediwr Americanaidd oedd Andrew Geoffrey "Andy" Kaufman (17 Ionawr 1949 – 16 Mai 1984). Mewn cyfweliad un tro, dywedodd nad oedd erioed wedi dweud joc, nac yn gomediwr, "y cwbwl fedraf ei wneud yw ceisio eich diddori". Fe'i ganwyd yn Ddinas Efrog Newydd, yn fab i Janice a Stanley Kaufman. Bu farw o gancr yr ysgyfaint yn 1984, yn 35 oed.
Cymerodd ran yn Saturday Night Live, Taxi (1978 - 1983), Late Night gyda David Letterman a bu'n wrestlo hefyd.
