Bywyd cynnar
Ganwyd Daudet yn Nîmes, Ffrainc. Roedd ei deulu, ar y ddwy ochr, yn perthyn i'r bourgeoisie. Roedd ei dad, Vincent Daudet, yn wneuthurwr sidan-dyn a dioddefodd anffawd a methiant trwy gydol ei oes. Cafodd Daudet ei addysgu mewn ysgol yn Lyon. Gwael fu ei gynnydd yn yr ysgol gan ei fod yn chwarae triwant yn aml. Ym 1856 aeth i Alès, Gard, yn ne Ffrainc i fod yn is athro ysgol. Ni fu llewyrch ar ei yrfa a rhoddodd y gorau i'w swydd ym 1857.
Wedi ymadael a dysgu aeth i fyw gyda'i frawd hyn Ernest Daudet, a oedd yn ceisio, ennill bywoliaeth fel newyddiadurwr ym Mharis. Dechreuodd Alphonse ysgrifennu, a chasglwyd ei gerddi mewn cyfrol fach, Les Amoureuses (1858), a gafodd derbyniad teg. Cafodd waith ar y papur newydd Le Figaro, cyhoeddodd ychydig o ddramâu, a dechreuodd gael ei gydnabod mewn cymunedau llenyddol fel llenor addawol. Penododd Charles, Duc de Morny, un o weinidogion blaenllaw Napoleon III, ef yn un o'i ysgrifenyddion -swydd a ddaliodd hyd at farwolaeth Morny ym 1865.
Gyrfa lenyddol
Ym 1866, cafodd ei lyfr Lettres de mon moulin (Llythyrau o Fy Melin Wynt) derbyniad da. Fodd bynnag, ni chreodd y cyntaf o'i lyfrau hirach, Le Petit Chose (Y Peth Bach) (1868), fawr o argraff. Cafodd é Fromont jeune et Risler aîne (Fromont yr ieuengaf a Risler yr hynaf) (1874) llwyddiant ysgubol gan sicrhau ei le fel un o lenorion mwyaf blaenllaw Ffrainc yn y 19C
Parhaodd ei lwyddiant gyda Jack, (1876) nofel am blentyn anghyfreithlon, oedd yn ferthyr i hunanoldeb ei fam. O hynny ymlaen aeth ei yrfa lenyddol o nerth i nerth, gyda'i nofelau: Le Nabab (Y Nabob) (1877), Les Rois en exil (Brenhinoedd mewn Alltudiaeth) (1879), Numa Roumestan (1881), Sappho (1884), a L'Immortel (Yr Anfarwol) ymysg eraill. Fe fu'n ysgrifennu ar gyfer y llwyfan ac yn hel atgofion yn ei Trente ans de Paris (Tri deg mlynedd o Baris) (1887) a Souvenirs d'un homme de lettres (Atgofion Dyn Llenyddol) (1888). Mae L'Immortel yn ymosodiad chwerw ar yr Académie française, corff mawreddog na pherthynodd Daudet iddo erioed. Ysgrifennodd Daudet hefyd i blant, gan gynnwys La Belle Nivernaise, stori hen gwch a'i chriw.
Ym 1921 cyhoeddwyd saith o'i storïau fyrion fel rhan o Gyfres y Werin, wedi eu cyfieithu gan Moelona. Daw un o'r storïau o'i lyfr Contes du Lundi (Straeon Dydd Llun) a'r chwech arall o'i Lythyrau o Fy Melin Wynt
Bywyd personol
Ym 1867 priododd Daudet â Julia Allard, awdur Impressions de nature et d'art (1879), L'Enfance d'une Parisienne (1883), a rhai astudiaethau llenyddol a ysgrifennwyd o dan y ffugenw "Karl Steen".
Nid oedd Daudet yn ŵr ffyddlon, bu ganddo nifer o ordderchon trwy gydol ei fywyd priodasol. Bu'n dioddef yn arw o syffilis. Byddai'n cael sawl triniaeth a llawdriniaeth boenus ar gyfer ei glefyd a barlysodd yn y pen draw. Cadwodd gofnodion dyddiadur yn ymwneud â'r boen a brofodd o'i afiechyd, ei effeithiau ar ei berthynas â ffrindiau, teulu, a phobl eraill, a'r amrywiol gyffuriau a gymerodd a'r triniaethau corfforol a gafodd yn ei frwydr yn erbyn y clefyd. Cyhoeddwyd ei nodiadau ar ôl ei farw.
Bu farw ym Mharis ar 16 Rhagfyr 1897, a chladdwyd ef ym Mynwent Père Lachaise y ddinas honno.
Mae hanes blynyddoedd cynnar Daudet yn cael ei adrodd yn Mon frère et moi (Fy mrawd a fi) gan ei frawd Ernest Daudet.
Llyfryddiaeth
Nofelau
- Le petit chose (1868)
- Tartarin de Tarascon (1872)
- Fromont jeune et Risler aîné (1874)
- Jack (1876)
- Le Nabab (1877)
- Les Rois en exil (1879)
- Numa Roumestan (1881)
- Sapho (1884)
- L'Immortel (1888)
Drama
- L'Arlésienne (1872)
Barddoniaeth
- Les Amoureuses (1858)
