Cyfreithiwr a gwleidydd [o Rwsia oedd Alexei Anatolievich Navalny (4 Mehefin 1976 – 16 Chwefror 2024) a fu'n ymgyrchydd yn erbyn llygredigaeth wleidyddol ac yn un o brif arweinwyr y gwrthwynebiad i lywodraeth Vladimir Putin.
Ganed ef yn Butyn, Oblast Moscfa, yng nghyfnod yr Undeb Sofietaidd. Swyddog Wcreinaidd yn y fyddin oedd ei dad, a gweithiodd ei fam mewn labordy micro-electroneg. Cafodd Alexei a'i frawd iau eu magu mewn sawl tref filwrol, gan gynnwys Obninsk, a byddent yn bwrw'r haf gyda'u nain ar gyrion Kyiv. Wedi cwymp yr Undeb Sofietaidd, prynodd ei rieni ffatri i blethu basgedi. Astudiodd Navalny y gyfraith ym Mhrifysgol Gyfeillgarwch y Bobl ym Moscfa, ac wedi iddo raddio ym 1998 aeth ati i astudio arianneg hefyd. Cychwynnodd ar yrfa gyfreithiol ac ymunodd â'r blaid ryddfrydol Yabloko yn 2000. Priododd â'i wraig Yulia yn 2000 a chawsant un mab ac un ferch.
Erbyn 2007, penodwyd Navalny yn is-bennaeth adran Yabloko ym Moscfa, ond cafodd ei ddiarddel o'r blaid wedi iddo ymuno â gorymdaith o genedlaetholwyr Rwsiaidd. Cychwynnodd ei flog ar wefan LiveJournal yn 2008 i ddatgelu llygredigaeth wleidyddol ac economaidd yn Rwsia. Daeth i sylw yn 2010 wedi iddo gyhoeddi ar ei flog cyhuddiadau o dwyll gan y cwmni gwladoledig Transneft i guddio $4 biliwn a ddiflannodd wrth adeiladu'r biblinell olew yn nwyrain Siberia.
Cyfeiriai Navalny ei feirniadaeth yn fwyfwy at Vladimir Putin a'i blaid Rwsia Unedig, ac yn 2011 ffurfiodd fudiad newydd i wrthwynebu llygredigaeth. Ymatebodd yr awdurdodau drwy gyhuddo Navalny ei hunan o lygredigaeth, a fe'i cafwyd yn euog yn 2012 o embeslu $500,000 o goed pan oedd yn cynghorwr i lywodraethwr Kirov. Er iddo gael dedfryd o garchar am 5 mlynedd, gohiriwyd y gosb, a ni chafodd ei wahardd felly o ymgeisio yn yr etholiad am faer Moscfa. Atynnodd nifer o gefnogwyr newydd o ganlyniad i'r achos llys, a chynhaliodd ralïau enfawr yn y brifddinas yn ystod yr ymgyrch etholiadol. Er i'r heddlu dargedu ei gefnogwyr, a'r sianeli teledu wrthod tynnu sylw at ei ymgyrch, enillodd Navalny 27% o'r bleidlais. Byddai Llys Hawliau Dynol Ewrop yn dyfarnu nad oedd treial Navalny yn deg, er y byddai barnwriaeth Rwsia yn cadarnháu ei ddedfryd, yn ohiriedig. Ceisiodd Navalny ymgynnig am yr arlywyddiaeth yn etholiad 2018, ond fe'i gwaharddwyd gan y comisiwn etholiadol. Cafodd ei arestio a'i chadw yn y ddalfa sawl gwaith am drefnu protestiadau yn erbyn y llywodraeth.
Yn haf 2019, tra yn y carchar, cafodd ei drin am symptomau gwenwyn. Yn Awst 2020 dioddefodd salwch ar daith o Foscfa i Siberia, ac wedi i'r awyren lanio ar frys yn Omsk cafodd ei gludo i'r ysbyty. Anfonwyd awyren o'r Almaen i'w symud i Ferlin, ac yno cyhoeddodd ei feddygon taw'r cyfrwng nerfol Novichok oedd achos y gwenwyno. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, ffoniodd Navalny swyddog arfau cemegol yn yr FSB, gan ffugio bod yn gynorthwywr i Ysgrifennydd Cyngor Diogelwch Rwsia. Cyfaddefodd y swyddog orchymyn rhoi Novichok ar ddillad Navalny mewn ymgais i'w ladd.
Dychwelodd Navalny i Rwsia ar ddechrau 2021, a chafodd ei arestio'n syth. Newidiwyd ei ddedfryd gohiriedig i ddedfryd o garchar am ddwy mlynedd a hanner, ac yn y gwersyll cyweiriol yn Pokrov, Oblast Vladimir, dirywiodd ei iechyd yn sylweddol. Wedi treial arall ym Mawrth 2022, fe'i cafwyd yn euog o embeslu a llygredigaeth a fe'i dedfrydwyd i garchar am naw mlynedd arall. Cafodd ei gadw mewn carchariad unigol yn barhaol. Yn Awst 2023 derbyniodd ddedfryd ychwanegol o 19 mlynedd am annog eithafiaeth ac ideoleg Natsïaidd. Fe'i anfonwyd i FKU IK-3, carchar drwg-enwog a elwir "Blaidd y Pegwn", yn Kharp, Yamalo-Nenets, ac yno y bu farw, yn 47 oed, yn Chwefror 2024.
