

Rhanbarth yn rhan ddwyreiniol canolbarth yr Eidal yw Abruzzo. L'Aquila yw'r brifddinas.
Mae Abruzzo yn ffinio ar ranbarthau Marche yn y gogledd, Lazio yn y gorllewin a Molise yn y de-ddwyrain, tra mae'r Môr Adriatig yn ffin ddwyreiniol. Er ei fod yng nghanolbarth y wlad, ar gyfer pwrpas ystadegau, fe'i hystyrir yn rhan o dde yr Eidal. Rheswm hanesyddol sydd am hyn, oherwydd i'r Abruzzo fod yn rhan o Deyrnas y Ddwy Sicilia.
Ardal fynyddig yw'r rhan fwyaf o'r rhanbarth, ac mae'n cynnwys y Gran Sasso d'Italia, copa uchaf yr Apenninau, 2,914 medr o uchder. Ceir nifer o barciau cenedlaethol a gwarchodfeydd yma, ac mae'r Arth frown, y blaidd a'r chamois i'w cael yma.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 1,307,309.
Rhennir y rhanbarth yn bedair talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:
