factograf
CY
Sign in

pentref yn Rhondda Cynon Taf

Abercynon

Abercynon

Key facts

poblogaeth6,390
arwynebedd916ha
enghraifft o'r canlynolpentref, cymuned
gwladwriaethy Deyrnas Unedig
lleolir yn yr ardal weinyddolRhondda Cynon Taf
All data from the card 10
Math
pentref, cymuned
Poblogaeth
6,390, 6,378, 6,428
Gwlad
Cymru
Arwynebedd
915.78 ha
Gerllaw
Afon Taf, Afon Cynon
Cyfesurynnau
51.6445°N 3.3267°W
Cod SYG
W04000678
Cod post
CF45
Etholaeth y Senedd
Pontypridd Cynon Merthyr
Etholaeth y DU
Beth Winter (Llafur)

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Abercynon. Fe'i lleolir yng Nghwm Cynon ar gymer afonydd Cynon a Thaf. Saif tua 13 milltir (21 km) i'r gogledd o Gaerdydd.

Ceir dwy orsaf drenau yno, un ar y rheilffordd o Gaerdydd i Aberdâr, a'r llall ar reilffordd Caerdydd-Merthyr Tudful. Abercynon oedd pen y daith reilffordd stêm gyntaf yn hanes y byd pan yrrodd Richard Trevithick injan stêm, ar 21 Chwefror 1804, a oedd yn tynnu haearn a theithwyr, o waith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful i fasn Camlas Morgannwg yn Abercynon. Ceir cofebion i'r daith hanesyddol ym Mhenydarren ac yn Abercynon.

Mae Abercynon yn gartref i Westy'r Thorn, a ddefnyddiwyd gan Tom Jones i ymarfer ar gyfer ei berfformiadau.

Hanes

Datblygodd y pentref fel canolfan cludiant ar gyffordd ar Gamlas Morgannwg ac ar fan cyffwrdd dwy gangen rheilffordd Cwm Taf. "Navigation" oedd enw'r pentref am gyfnod. Suddwyd pwll glo yno ym 1889 a ymunwyd ag Ynysybwl ac a adnabuwyd hyd ei gau yn yr wythdegau fel Glofa Abercynon Lady Windsor.

Ganwyd y paffiwr Dai Dower yno. Mae Plasty Llancaiach Fawr heb fod ymhell o'r pentref.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Abercynon (pob oed) (6,390)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Abercynon) (552)
  
9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Abercynon) (5812)
  
91%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Abercynon) (1,047)
  
38.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Dolenni allanol

Trefi a phentrefi Rhondda Cynon Taf

Trefi
Aberdâr  · Aberpennar  · Glynrhedynog  · Llantrisant  · Pontypridd  · Y Porth  · Tonypandy  · Treorci
Pentrefi
Aberaman  · Abercwmboi  · Abercynon  · Aber-nant  · Y Beddau  · Blaenclydach  · Blaencwm  · Blaenllechau  · Blaenrhondda  · Brynna  · Brynsadler  · Cefn Rhigos  · Cefnpennar  · Cilfynydd  · Coed-elái  · Coed-y-cwm  · Cwmaman  · Cwm-bach  · Cwm Clydach  · Cwmdâr  · Cwm-parc  · Cwmpennar  · Y Cymer  · Dinas Rhondda  · Y Ddraenen Wen  · Efail Isaf  · Fernhill  · Ffynnon Taf  · Y Gelli  · Gilfach Goch  · Glan-bad  · Glyn-coch  · Glyn-taf  · Y Groes-faen  · Hirwaun  · Llanharan  · Llanhari  · Llanilltud Faerdref  · Llanwynno  · Llwydcoed  · Llwynypïa  · Y Maerdy  · Meisgyn  · Nantgarw  · Penderyn  · Pendyrus  · Penrhiw-ceibr  · Penrhiw-fer  · Penrhys  · Pentre  · Pentre'r Eglwys  · Pen-yr-englyn  · Pen-y-graig  · Pen-y-waun  · Pont-y-clun  · Pont-y-gwaith  · Y Rhigos  · Rhydyfelin  · Ton Pentre  · Ton-teg  · Tonyrefail  · Tonysguboriau  · Trealaw  · Trebanog  · Trecynon  · Trefforest  · Trehafod  · Treherbert  · Trehopcyn  · Trewiliam  · Tynewydd  · Wattstown  · Ynys-hir  · Ynysmaerdy  · Ynys-y-bwl  · Ystrad Rhondda

Read next

In 19 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article