factograf
CY

Abacws

Abacws
All data from the card 2
Math
offeryn
Freebase
/M/0hq8
Y soroban, Japan
Y soroban, Japan
Abacws deuol (soroban-gyfrifiannell), Sharp Elsi Mate EL-8048 Sorokaru, a gynhyrchwyd yn 1979
Abacws deuol (soroban-gyfrifiannell), Sharp Elsi Mate EL-8048 Sorokaru, a gynhyrchwyd yn 1979
2 images

Mae'r abacws (ll. abacysau), a elwir hefyd yn 'ffrâm gyfri', yn offeryn cyfrifo a ddefnyddiwyd yn Asia, Ewrop, Tsieina a Rwsia, canrifoedd cyn mabwysiadu'r System rhifolion Hindŵ-Arabaidd. Ymddangosodd yr abacws yn gyntaf oddeutu 2700–2300 CC yn Swmer, Gorllewin Asia. Heddiw, mae'r abacws yn aml yn cael ei lunio fel ffrâm fambŵ gyda gleiniau'n llithro ar wifrau, ond yn wreiddiol, roeddent yn ffa neu'n gerrig wedi'u symud mewn rhigolion yn y tywod neu ar ford pren, carreg, glai neu fetel. Mewn rhai gwledydd cafodd ei olynnu gan y cyfrifiannell mecanyddol, ac yna'r cyfrifiannell electronig, ond yn 2019 roedd yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd.

Ceir amrywiaeth eang o ran cynllun a maint yr abacws. Pwrpas yr abacysau 10-glain, yn bennaf, yw i gynorthwyo addysgu rhifyddeg. Fe'u defnyddir heddiw yn aml mewn rhai o gyn-wledydd Sofiet yn yr ysgolion, ac yng Ngorllewin Ewrop, Tsieina ac Affrica. Mae'r math 'soroban' (a'r 'suanpan') yn Japan, wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo symiau cymhleth iawn. Gall pob abacws, gyflawni sawl gweithrediad gwahanol e.e. adio, lluosi neu gyfrio'r Ail isradd. Mae rhai o'r dulliau'n gweithio gyda rhifau annaturiol e.e. 1.7 neu ​3⁄4.

Ar 12 Tachwedd 1949 cynhaliwyd cystadleuaeth ffurfiol rhwng yr abacws a'r cyfrifiannell, yn Tokyo. Defnyddiwyd y math soroban gan Kiyoshi Matsuzaki a chyfrifiannell electronig gan Thomas Nathan Wood, aelod o luoedd arfog UDA. Rhoddwyd marciau am bedwar math o broblem (y pedwar gweithrediad rhifyddol) a phumed problem a oedd yn cyplysur 4 gweithrediad, gyda chyflymder a chywirdeb yn brif meincnodau. Enillodd yr abacws 4 o'r problemau a'r cyfrifiannell un. Yn ôl y papur newydd Stars and Stripes, roedd buddugoliaeth yr abacws yn glir a phendant, ac wedi'r digwyddiad hwn: "the machine age took a step backwards....".

Geirdarddiad

Gwyddom i'r gair "abacws" gael ei ddefnyddio cyn yr Oesoedd Canol, pan ymddangosodd mewn dofen Saesneg. Tarddiad y gair yw'r gair Groeg ἄβαξ abax sef bwrdd neu ford heb goesau. Cred eraill fod y gair yn hŷn na hyn ac yn perthyn i iaith y Ffenicia, (Libanus a Syria heddiw), ʾābāq (אבק), "llwch" (ay'n awgrymu mai llwch ar fwrdd oedd yr abacws cyntaf.

Hanes

Ar wahân i Mesopotamia, milenia'n ddiweddarach, fe'i caed yn yr Aifft. Gwyddom hyn oherwydd cofnod gan Herodotus (c.485 CC - 425 CC) sy'n nodi eu bod yno'n defnyddio "cerrig bychan o'r dde i'r chwith - cyfeiriad hollol wahanol i'r hyn a wnawn yng Ngwald Groeg". Canfuodd archaeolegwyr nifer o gerrig ar ffurf disgiau a ystyrir yn rannau o'r abacws.

Gwyddom hefyd i'r Persiaid ddefnyddio'r abacws tua 600 CC. Ni chyrhaeddodd Wlad Groeg tan 5CC.

Llyfryddiaeth

  • Ifrah, Georges (2001). The Universal History of Computing: From the Abacus to the Quantum Computer. Efrog Newydd: John Wiley & Sons.
  • Carr, Karen (2014). "West Asian Mathematics". Kidipede. History for Kids!. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Mehefin 2014. Cyrchwyd 19 Mehefin 2014.
  • Carruccio, Ettore (2006). Mathematics and Logic In History and In Contemporary Thought. translated by Quigly, Isabel. Aldine Transaction.

Oriel: Abacysau o'r 16g

9 images

Read next

In 111 languages

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article