Digwyddiadau
- Pyrrhus, brenin Epiros, yn gorchfygu byddin Gweriniaeth Rhufain dan y conswl Publius Valerius Laevinus ym Mrwydr Heraclea.
- Y cerflunydd Chares o Lindos yn gorffen Colosws Rhodos wedi deuddeng mlynedd o waith. Mae dros 30 medr (100 troedfedd) o uchder, ac yn un o ryfeddodau'r hen fyd.
- Ail-sefydlir Cynghrair Achaea gan ddeuddeg dinas yng ngogledd y Peloponnesus.
Genedigaethau
- Philo o Byzantium, awdur Groegaidd ar fecaneg (tua'r dyddiad yma)
Marwolaethau
- Herophilus, meddyg o Alexandria, a elwir weithiau yn dad anatomeg