Yr Henfyd yw'r enw traddodiadol a ddefnyddir er cyfnod y Dadeni i ddisgrifio'r gwareiddiau a flodeuai o amgylch Môr y Canoldir, o ddechrau'r dinasoedd cyntaf i gwymp yr Ymerodraeth Rufeinig. Mae'n cwmpasu y gwareiddiau cyntaf ym Mesopotamia a'r Hen Aifft, y Ffeniciaid, Groeg yr Henfyd, Carthago a nifer o wareiddiau eraill. Mae ei derfynau cronolegol a daearyddol braidd yn amwys ond gellid ei ddiffinio ymhellach fel y byd oedd yn adnabyddus i'r Groegiaid hynafol a'r Rhufeiniaid. Roedd hynny'n cynnwys rhannau helaeth o Orllewin Ewrop, basn Môr y Canoldir gan gynnwys de Ewrop, Gwlad Groeg a'i hynysoedd, Asia Leiaf, Persia, y Dwyrain Canol, Yr Aifft a Gogledd Affrica. Enwau eraill ag ystyr gyffelyb a ddefnyddir yw "Y Byd Hynafol", "Yr Henfyd Clasurol" ac "Y Byd Clasurol" (tueddir i ddefnyddio'r gair Clasurol am y cyfnod pan oedd Groeg a Rhufain yn eu hanterth).
Yr Henfyd

Read next
In 119 languages
cyAlemannischaragonésالعربيةمصرىasturianuazərbaycancaتۆرکجهBoarischžemaitėškaбеларускаяBetawiбългарскиभोजपुरीবাংলাbrezhonegbosanskicatalàCebuanoکوردیčeštinaчӑвашлаDeutschZazakiΕλληνικάEnglishEsperantoespañoleestieuskaraفارسیvõrofrançaisfurlanFryskGaeilgekriyòl gwiyannengalegoAvañe'ẽעבריתहिन्दीhrvatskiKreyòl ayisyenmagyarհայերենinterlinguaBahasa IndonesiaInterlingueIdoíslenskaitaliano日本語ქართულიTaqbaylitKabɩyɛқазақша한국어kurdîkernowekкыргызчаLatinaLëtzebuergeschLingua Franca NovaLadinlombardລາວlietuviųlatviešuмокшеньMalagasyмакедонскиമലയാളംꯃꯤꯇꯩ ꯂꯣꯟBahasa MelayuNapulitanoनेपालीNederlandsnorsk nynorsknorskNovialߒߞߏoccitanPapiamentuPicardpolskiΠοντιακάپښتوportuguêsrumantschromânăрусскийрусиньскыйsarduScotsسنڌيsrpskohrvatski / српскохрватскиසිංහලSimple Englishslovenčinaslovenščinashqipсрпски / srpskiதமிழ்ไทยTagalogTürkçeтатарча / tatarçaукраїнськаاردوoʻzbekcha / ўзбекчаTiếng ViệtwalonWinaray吴语მარგალურიייִדיש閩南語 / Bân-lâm-gí粵語中文
Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article