factograf
CY
Sign in

drama lwyfan Gymreig gan Peter Gill (1997)

Cardiff East

  • 2 min read
  • 2 images
Cardiff East

Key facts

dyddiad cyhoeddi1997
enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol
awdurPeter Gill
All data from the card 9
Enghraifft o:
drama lwyfan Gymreig
Dyddiad cynharaf
1997
Awdur
Peter Gill
Cyhoeddwr
Faber & Faber
Gwlad
Cymru
Iaith
Saesneg
Dyddiad cyhoeddi
1997
Lleoliad
Caerdydd
Lleoliad y perff. 1af
Llundain


Drama lwyfan Gymreig o 1997 gan y dramodydd o Gaerdydd Peter Gill yw Cardiff East. Wedi'i gosod yn y 1990au yn ochr ddwyreiniol Caerdydd ymysg y dosbarth gweithiol, mae'r ddrama'n cynnig portread byw o "gymuned yr oedd y Torïaid yn credu eu bod wedi'i gwaredu, ac yn well gan [y Blaid] Lafur Newydd ei hanghofio". Dilyn sawl teulu a chymydog ar stad o dai, lle mae eu bywydau'n gorgyffwrdd trwy berthynas, cyfeillgarwch neu galedi yw calon y ddrama gan gyflwyno portread ensemble o gymuned sy'n brwydro diweithdra, alcoholiaeth, cyffuriau, gwrthdaro domestig ac erydiad bywyd teuluol traddodiadol. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn y Theatr Genedlaethol Frenhinol a Theatr Newydd Caerdydd, gyda nifer o actorion amlwg o Gymru yn y cast megis Daniel Evans, Matthew Rhys, Mark Lewis Jones, Di Botcher a Lisa Palfrey.

Cymeriadau

Coeden deulu cymeriadau'r ddrama
Coeden deulu cymeriadau'r ddrama
  • Neil, mab Dolly
  • Stella, cyn wraig Len a mam Darkie
  • Tommy, Mab Marge
  • Annie, ffrind teuluol i Michael a Marge
  • Darkie, mab Stella a Len
  • Anne Marie, merch Billy a Shirley
  • Ryan, mab Billy a Shirley
  • Michael, brawd Marge
  • Shirley, gwraig Billy
  • Billy, gŵr Shirley mab Charlie
  • Marg[e], mam Tommy a chwaer Michael
  • Dolly, ffrind Marge a mam Neil
  • Vera, ffrind Marge a Dolly
  • Carol, cariad Darkie
  • Len, cyn-ŵr Stella a thad Darkie
  • Charlie, tad Billy
  • Galwr Bingo

Crynodeb

Mae rhan gynta'r ddrama yn gymhleth, wrth i'r cymeriadau [16] ymddiddan â'i gilydd, gan beri i'r gynulleidfa geisio deall pwy sy'n perthyn i bwy. Bwriad y cyfan yw cyfleu cymuned ddosbarth gweithiol dorredig, sy'n llawn drama, probemau cymdeithasol a mân siarad. Mae yma gymeriadau hoyw, cymeriadau sy'n defnyddio cyffuriau, alcohol ac yn gamblo, chwarae bingo a rygbi, cymeriadau sy'n hel straeon ac yn ffraeo, nes peri i rai adolygwyr ei disgrifio fel "Under Milk Wood y nawdegau" neu "fersiwn Gymreig o Coronation Street".

Ond yn yr ail hanner, daw'r ystyr yn fwy clir. Galarnad dros gymuned ddosbarth gweithiol sydd yma, wedi profi chwalu teuluoedd, amddifadu economaidd ac wedi'i drysu'n foesol. Er gwaethaf ei holl egni a'i fflachiadau o hiwmor, mae'r ddrama'n rhybuddio'n daer fod Cymru mewn perygl o ddod yn barc thema lliwgar lle nad oes llawer o obaith i deuluoedd, cymunedau a'r hen undod.

Nododd rhai beirniaid fod naws y ddrama weithiau'n mynd yn rhy hiraethus neu bregethwrol trwy gymeriadau fel Michael (yr hen offeiriad). Er hynny, mae'n parhau i fod yn gampwaith theatrig sy'n dangos urddas dynol ynghanol byd o boen ac anobaith.

Cynyrchiadau nodedig

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Theatr Cottesloe [Dorfman bellach], Theatr Genedlaethol Frenhinol, Llundain ar y 6 Chwefror 1997 o dan gyfarwyddyd y dramodydd ei hun, Peter Gill; cast:

Read next

Text from Wikipedia, CC BY-SA 4.0 · Source article